6 CRAFFU Y CYNLLUN LLESIANT DRAFFT PDF 267 KB
Rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys y Cynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(i)
Derbyn yr
adroddiad.
(iii) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amcan llesiant ‘Rydym am weithio
gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau’ gan ei fod yn
holl bwysig.
(iv) Bod angen sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn cael bob
tegwch.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Esboniwyd byddai’r
Cynllun Llesiant yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei
gynnal nes 6 Mawrth 2023.
-
Ymhelaethwyd bod y
gwaith i wneud y Cynllun Llesiant drafft wedi cael ei ddatblygu dros yr 18 mis
diwethaf. Cynhaliwyd gweithdai dros yr haf gydag aelodau’r bwrdd er mwyn dysgu
gwersi o’r cynllun llesiant blaenorol a gosod meini prawf er mwyn cytuno ar
amcanion newydd. Nodwyd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn
awyddus i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth drwy weithio gyda'i gilydd heb
ddyblygu gwaith byddai’n cael ei gyflawni beth bynnag.
-
Cadarnhawyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llunio tri Amcan Llesiant ar gyfer y cyfnod
2023-2028. Roedd y rhain yn feysydd lle’r oedd y Bwrdd yn credu fod modd i’w
aelodau gydweithio’n well er mwyn sicrhau canlyniad gorau posib i bobl Gwynedd
a Môn. Yr amcanion drafft oedd:
o Rydym am weithio gyda'n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein
cymunedau.
o Rydym am weithio gyda'n gilydd i flaenoriaethu lles a llwyddiant ein
plant a phobl ifanc.
o Rydym am weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymunedau i symud tuag at
Sero Net Carbon.
-
Pwysleisiwyd bod yr
Iaith Gymraeg yn llinyn euraidd a fyddai’n cael ei hyrwyddo ym mhob maes yng
nghynllun y Bwrdd.
-
Eglurwyd bod y Bwrdd yn
parhau i ymgynghori drwy rannu’r Cynllun Llesiant Drafft gyda chynghorau tref a
chymuned, y trydydd sector, fforymau pobl hŷn, plant mewn gofal a myfyrwyr
colegau a chweched dosbarth.
-
Cadarnhawyd byddai’r
Bwrdd yn addasu’r cynllun llesiant ddrafft yn dilyn y cyfnod ymgynghori pe
byddai angen cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn a’i gyhoeddi ym mis Mai.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Atgoffwyd
yr aelodau bod y Pwyllgor yn ymgynghorai statudol. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol:
Rhannwyd pryder am warchodaeth yr iaith
Gymraeg yn y Cynllun, yn enwedig yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar.
Nodwyd er bod yr adroddiad yn nodi fod yr iaith yn llinyn euraidd, nid oedd
wedi ei gynnwys fel amcan penodol yn y Cynllun newydd. Holwyd os byddai’r Bwrdd
yn ystyried newid un o’r amcanion i gynnwys yr iaith Gymraeg neu ychwanegu
amcan ychwanegol.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod:
-
sicrhaodd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn bod yr
iaith wedi ei wreiddio yn holl waith y Bwrdd. Nid oedd yr iaith wedi ei nodi
fel amcan oherwydd bod holl aelodau’r Bwrdd yn gweithredu’n Gymraeg yn barod ac
felly ddim yn darged newydd. Nodwyd y byddai’r Bwrdd yn ystyried diwygio’r
cynllun er mwyn amlygu statws y Gymraeg o fewn y Cynllun.
-
nododd Arweinydd y Cyngor
bod yr is-grŵp iaith hefyd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr iaith
Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan holl aelodau’r Bwrdd.
Ystyriwyd sut fyddai’r amcanion yn cael eu hariannu a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6