7 DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO PDF 210 KB
I ystyried a chadarnhau'r
rhagdybiaethau a'r polisïau a amlinellir yn yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido
pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol;
y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023.
Nodwyd mai prif bwrpas y datganiad yw
adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd
y cyflogwyr gyda amcanion hylifedd hir dymor y gronfa. Cyflwynwyd y datganiad
(drafft) i’r Pwyllgor am gadarnhad o’r rhagdybiaethau a’r polisïau fel bod modd
rhyddhau’r datganiad am ymgynghoriad gyda’r holl gyflogwr cyn mabwysiadu’n
ffurfiol yn y pwyllgor nesaf.
Eglurwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad actiwaraidd. Ategwyd bod y cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad
gan yr actiwari ym mis Hydref lle datganwyd bod y canlyniadau yn bositif ar y
cyfan gyda mwyafrif o’r cyflogwyr yn derbyn gostyngiad yn ei cyfraniadau.
Nodwyd bod y datganiad yn
ddogfen faith a thechnegol wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y gronfa. Cyfeiriwyd at y datganiad
ynghyd a’r polisïau ategol. Eglurwyd bod y polisïau ategol fel arfer wedi eu
hymgorffori yn y ddogfen ond cytunwyd, gyda chymeradwyaeth Hymans,
i osod cyfeiriad at y polisïau yn y strategaeth, ond eu bod yn eistedd ar wahân
ac felly’n haws i’w canfod / addasu pe byddai angen cyrraedd at wybodaeth neu
ddiweddaru’r polisïau heb orfod addasu’r strategaeth i gyd.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:
·
Er yn ddogfen faith a
thechnegol, y cynnwys yn fanwl ac wedi ei osod allan mewn modd hawdd i’w ddilyn
·
Bod yr iaith a ddefnyddir
yn ddealladwy
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn a chadarnhau'r tybiaethau
a’r polisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft)
·
Cymeradwyo’r
Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ar gyfer ymgynghoriad gyda holl
gyflogwyr y Gronfa