Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/01/2023 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 7)

7 DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO pdf eicon PDF 210 KB

I ystyried a chadarnhau'r rhagdybiaethau a'r polisïau a amlinellir yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chadarnhau'r tybiaethau a’r polisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft)
  • Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ar gyfer ymgynghoriad gyda holl gyflogwyr y Gronfa

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol; y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023.

Nodwyd mai prif bwrpas y datganiad yw adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd y cyflogwyr gyda amcanion hylifedd hir dymor y gronfa. Cyflwynwyd y datganiad (drafft) i’r Pwyllgor am gadarnhad o’r rhagdybiaethau a’r polisïau fel bod modd rhyddhau’r datganiad am ymgynghoriad gyda’r holl gyflogwr cyn mabwysiadu’n ffurfiol yn y pwyllgor nesaf.

Eglurwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad actiwaraidd. Ategwyd bod y cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad gan yr actiwari ym mis Hydref lle datganwyd bod y canlyniadau yn bositif ar y cyfan gyda mwyafrif o’r cyflogwyr yn derbyn gostyngiad yn ei cyfraniadau.

Nodwyd bod y datganiad yn ddogfen faith a thechnegol wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y gronfa. Cyfeiriwyd at y datganiad ynghyd a’r polisïau ategol. Eglurwyd bod y polisïau ategol fel arfer wedi eu hymgorffori yn y ddogfen ond cytunwyd, gyda chymeradwyaeth Hymans, i osod cyfeiriad at y polisïau yn y strategaeth, ond eu bod yn eistedd ar wahân ac felly’n haws i’w canfod / addasu pe byddai angen cyrraedd at wybodaeth neu ddiweddaru’r polisïau heb orfod addasu’r strategaeth i gyd.

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Er yn ddogfen faith a thechnegol, y cynnwys yn fanwl ac wedi ei osod allan mewn modd hawdd i’w ddilyn

·         Bod yr iaith a ddefnyddir yn ddealladwy

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn a chadarnhau'r tybiaethau a’r polisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft)

·         Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ar gyfer ymgynghoriad gyda holl gyflogwyr y Gronfa