8 AMLINELLIAD O RAGLEN WAITH ADOLYGU GWASANAETHAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU PDF 305 KB
1. I
amlinellu’r materion sydd angen sylw yn y meysydd Gwastraff ac Ailgylchu.
2. I
gyflwyno rhaglen waith i adolygu materion sydd angen sylw ym meysydd Gwastraff
ac Ailgylchu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd.
Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Cadarnhawyd bod y
gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu wedi ei drosglwyddo i’r Adran
Amgylchedd ers Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran wedi bod yn dysgu mwy am y
gwasanaeth ac yn ymgyfarwyddo gyda’r gwaith drwy fynd ar gylchdeithiau gyda
rhai o’r gweithlu.
-
Eglurwyd bod gweithlu’r
gwasanaeth yn ymroddgar iawn gan eu bod yn darparu gwasanaeth wythnosol i tua
63,400 o anheddau ar draws y sir.
-
Datganwyd bod canrannau
ailgylchu Cymru yn dda iawn o’i gymharu â gwledydd eraill. Eglurwyd bod targed
wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff domestig
erbyn 2025. Roedd yn her i bob awdurdod lleol.
-
Diolchwyd i’r adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol am ddatblygu systemau i sicrhau fod canran ailgylchu
domestig Gwynedd yn sefydlog o gwmpas 64%. Er hyn, cydnabuwyd yr angen i wneud
rhywbeth mawr er mwyn cyrraedd y targed o 70% erbyn 2025. Nododd ni fyddai’n
bosibl ei gyrraedd drwy wneud man newidiadau i weithdrefnau presennol.
-
Eglurwyd bod trefniadau
gweithio’r gwasanaeth wedi newid o shifftiau 12 awr (tri diwrnod ymlaen, tri
diwrnod i ffwrdd) i fod yn gweithio'r un oriau dros 5 niwrnod yr wythnos. Roedd
hyn yn heriol dros gyfnod Covid-19 ond bellach roedd y gweithlu wedi addasu
iddo ac yn gweithio ar sylfaen Tasg a Gorffen. Gobeithiwyd bod hyn yn mynd i
arwain at arbedion o fewn y gwasanaeth ond yn anffodus roedd y costau yn fwy
na ragwelwyd. Byddai’r adran yn ail edrych
ar y trefniant hwn er mwyn asesu os oedd yn optimeiddio’r gwasanaeth i’w llawn
botensial.
-
Adroddwyd bod casglu
gwastraff yn costio £232 yr annedd. Eglurwyd mai hwn oedd yr ail swm uchaf yng
Nghymru. Cysidrwyd bod hyn gan fod Gwynedd yn sir eang iawn. Er hyn, roedd
perfformiad y gwasanaeth yn dda iawn o ran canran ailgylchu.
-
Cadarnhawyd bod
gorwariant sylweddol yn y maes casglu a thrin gwastraff. Oherwydd natur
gorfforol y gwaith, roedd lefelau salwch staff yn uchel. Cydnabuwyd bod y lefel
hwn yn uwch na rhai o awdurdodau eraill Cymru. Golygai bod rhai aelodau o’r
gweithlu yn gorfod gweithio oriau ychwanegol. Tybir i’r ffigyrau gorwariant fod
o gwmpas £1.4 miliwn eleni ar gyllideb o oddeutu £5 miliwn.
-
Pwysleisiwyd bod iechyd a
diogelwch y gweithlu yn ganolog i’r gwasanaeth. Nid oedd strategaeth gwastraff
ac ailgylchu amlwg gan y Cyngor. Roedd yr adran yn gobeithio datblygu hyn yn y
dyfodol er mwyn sicrhau bod iechyd a diogelwch staff yn cael ei warchod.
- Dywedwyd bod yr adran yn derbyn cwynion cyson bod bocsys a biniau ailgylchu wedi torri a bod gwastraff yn chwythu ar hyd y ffordd gan nad oedd wedi cael ei gasglu. Tybir fod hyn hefyd yn effaith o salwch staff ac roedd yr adran yn ail asesu sut i ddarparu’r gwasanaeth yn y dull mwyaf effeithiol. Roedd y Llywodraeth yn obeithiol byddai awdurdodau lleol yn gallu didoli gwastraff ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8