9 BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 PDF 397 KB
I fabwysiadu rhaglen waith diwygiedig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd
Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:
-
Adroddwyd bod y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag Aelodau Cabinet
a Phenaethiaid Adran perthnasol. Mewn cyfarfod diweddar gydag Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
cyfeiriwyd at yr eitem ‘Strategaeth Llifogydd Lleol’ a graffwyd yng nghyfarfod
y Pwyllgor ar 27 Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran a’r Aelod Cabinet yn
awyddus iawn i’r pwyllgor graffu ‘Asesiad Risg Llifogydd’ yng nghyfarfod y
pwyllgor craffu ym mis Mawrth gan ei fod yn amserol wrth ddatblygu Strategaeth
Llifogydd Lleol.
-
Gofynnwyd i’r aelodau gymeradwyo’r addasiad yma i’r
rhaglen waith.
PENDERFYNWYD
Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.