10 CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD. PDF 184 KB
I enwebu
cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ethol
y Cynghorwyr Rhys Tudur a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad maes gwaith Amgylchedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd
Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:
-
Adroddwyd mai un
cyfarfod herio perfformiad a gynhelir ar gyfer meysydd gwaith Priffyrdd a
Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) yn
dilyn trosglwyddiad YGC i’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.
-
Atgoffwyd bod sedd wag i
gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yng nghyfarfod herio perfformiad
Amgylchedd.
-
Cadarnhawyd yn dilyn
cyfarfod anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd 27 Hydref, 2022, rhoddwyd y cyfle
i’r pedwar cynrychiolydd presennol i ddatgan diddordeb. Yn dilyn derbyn
ymatebion, argymhellwyd:
o Bod y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn llenwi’r sedd wag ar gyfarfod Herio
Perfformiad Amgylchedd.
o Y Cynghorwyr Stephen Churchman a Rob Triggs i gynrychioli’r pwyllgor yng
nghyfarfodydd herio perfformiad Priffyrdd a Ymgynghoriaeth
Gwynedd, gyda’r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts yn aelod wrth gefn.
PENDERFYNWYD
Ethol
y Cynghorwyr Rhys Tudur a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad maes gwaith Amgylchedd.