11 CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 686 KB
Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y
cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r
gwasanaethau perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol
am y cyfnod o 1 Mai 2022 hyd 25 Ionawr 2023. Amlygwyd bod 24 o archwiliadau’r
cynllun wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod
ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.
Cyfeiriwyd
at bob archwiliad yn ei dro.
b)
Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol:
Archwiliad Diogelwch Tacsi
·
Pryder na welwyd tystiolaeth
ddisgwyliedig wrth brosesu ceisiadau trwydded tacsi (dogfennau cofrestru,
tystysgrifau MOT a dogfennau yswiriant ar goll)
·
Angen sicrhau bod gan yr Adran
Trwyddedu gamau gweithredu dilys i ymateb i’r pryderon ac i osgoi dilyniant o
gamgymeriadau yn 2023/24
Mewn ymateb, nodwyd mai prinder staff oedd un o’r rhesymau dros lithriad
yn safon y gwaith a bod staff ar secondiadau i’r Adran yn ddibrofiad. Ategwyd
bod pob ymdrech wedi ei wneud i wella’r sefyllfa.
Mewn ymateb i gwestiwn os yw’r trefniadau yn berthnasol i dacsi dwr a
fferi, nodwyd bod modd cynnwys hyn yng nghynllun 2023/34
Archwiliad Dyletswyddau
Economaidd Cymdeithasol 2021
Mewn ymateb i gwestiwn lle heriwyd os mai ‘digonol’ yw casgliad cywir yr
archwiliad o ystyried bod angen i asesiadau effaith gael eu cefnogi gan ddata
er mwyn cyfiawnhau'r datganiadau, nodwyd mai un rhan o ffurflen asesiad
terfynol oedd dan sylw yma yn ymateb i’r dyletswydd o annog gwell prosesau o
wneud penderfyniadau strategol ac i’r Awdurdod ystyried anghydraddoldeb sy’n
deillio o anfantais economaidd. Mewn
ymateb i gwestiwn ategol os yw casglu barn a phrofiadau yn cael eu hystyried
fesul grŵp neu ardal, nodwyd bod barn yn cael ei gasglu fesul unigolyn neu
grŵp ond bod gwybodaeth ddaearyddol ar gael i’w ystyried. Ategwyd bod gofynion am brofiadau i weld yn
goroesi’r angen am ddata erbyn hyn.
Archwiliad Cartrefi Gofal Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau
·
Pryder bod patrwm i’r pryderon
yn y Cartrefi Gofal
·
A oes ystyriaeth i gwynion
perthnasol i’r gwasanaeth yma wedi eu hystyried? Er bod archwiliad cwynion
corfforaethol wedi ei gwblhau a oes modd adeiladu’r darganfyddiadau i’r
Archwiliad? Awgrym i edrych ar ddigwyddiadau penodol, cwynion , materion yn
codi fel rhan o’r fethodoleg i’r dyfodol - bod modd defnyddio ffynonellau
eraill o wybodaeth megis adroddiadau’r Ombwdsman.
·
Bod canfyddiad yr archwiliad
yn rhy ffafriol o ystyried patrwm hanesyddol i’r camau rheoli
·
Bod diwylliant yn y maes, nad
yw’n gyfyngedig i’r tri cartref dan sylw, o dorri corneli ac anwybyddu
gweithdrefnau - angen gweithredu a chyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Gofal
c) Diolchwyd am yr adroddiad
·
Cefnogi gweithrediadau
sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol
·
Cais am ddiweddariad o
Archwiliad Diogelwch Tacsis (lefel sicrwydd cyfyngedig)
·
Bod angen cyfeirio’r
mater o ddiffyg gweithredu gweithdrefnau rheolaethol mewn Cartrefi Gofal i’r Pwyllgor
Craffu Gofal