Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 11)

11 CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 686 KB

Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol
  • Cais am ddiweddariad o Archwiliad Diogelwch Tacsis (lefel sicrwydd cyfyngedig)
  • Bod angen cyfeirio’r mater o ddiffyg gweithredu gweithdrefnau rheolaethol mewn Cartrefi Gofal i’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

COFNODION:

a)    Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Mai 2022 hyd 25 Ionawr 2023. Amlygwyd bod 24 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau  ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro.

 

b)    Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

                  Archwiliad Diogelwch Tacsi

·         Pryder na welwyd tystiolaeth ddisgwyliedig wrth brosesu ceisiadau trwydded tacsi (dogfennau cofrestru, tystysgrifau MOT a dogfennau yswiriant ar goll)

·         Angen sicrhau bod gan yr Adran Trwyddedu gamau gweithredu dilys i ymateb i’r pryderon ac i osgoi dilyniant o gamgymeriadau yn 2023/24

 

Mewn ymateb, nodwyd mai prinder staff oedd un o’r rhesymau dros lithriad yn safon y gwaith a bod staff ar secondiadau i’r Adran yn ddibrofiad. Ategwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud i wella’r sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw’r trefniadau yn berthnasol i dacsi dwr a fferi, nodwyd bod modd cynnwys hyn yng nghynllun 2023/34

 

Archwiliad  Dyletswyddau Economaidd Cymdeithasol 2021

 

Mewn ymateb i gwestiwn lle heriwyd os mai ‘digonol’ yw casgliad cywir yr archwiliad o ystyried bod angen i asesiadau effaith gael eu cefnogi gan ddata er mwyn cyfiawnhau'r datganiadau, nodwyd mai un rhan o ffurflen asesiad terfynol oedd dan sylw yma yn ymateb i’r dyletswydd o annog gwell prosesau o wneud penderfyniadau strategol ac i’r Awdurdod ystyried anghydraddoldeb sy’n deillio o anfantais economaidd.  Mewn ymateb i gwestiwn ategol os yw casglu barn a phrofiadau yn cael eu hystyried fesul grŵp neu ardal, nodwyd bod barn yn cael ei gasglu fesul unigolyn neu grŵp ond bod gwybodaeth ddaearyddol ar gael i’w ystyried.  Ategwyd bod gofynion am brofiadau i weld yn goroesi’r angen am ddata erbyn hyn.

 

Archwiliad Cartrefi Gofal Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau

·         Pryder bod patrwm i’r pryderon yn y Cartrefi Gofal

·         A oes ystyriaeth i gwynion perthnasol i’r gwasanaeth yma wedi eu hystyried? Er bod archwiliad cwynion corfforaethol wedi ei gwblhau a oes modd adeiladu’r darganfyddiadau i’r Archwiliad? Awgrym i edrych ar ddigwyddiadau penodol, cwynion , materion yn codi fel rhan o’r fethodoleg i’r dyfodol - bod modd defnyddio ffynonellau eraill o wybodaeth megis adroddiadau’r Ombwdsman.

·         Bod canfyddiad yr archwiliad yn rhy ffafriol o ystyried patrwm hanesyddol i’r camau rheoli

·         Bod diwylliant yn y maes, nad yw’n gyfyngedig i’r tri cartref dan sylw, o dorri corneli ac anwybyddu gweithdrefnau - angen gweithredu a chyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

·         Cais am ddiweddariad o Archwiliad Diogelwch Tacsis (lefel sicrwydd cyfyngedig)

·         Bod angen cyfeirio’r mater o ddiffyg gweithredu gweithdrefnau rheolaethol mewn Cartrefi Gofal i’r Pwyllgor Craffu Gofal