Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 09/03/2023 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 5)

5 CYFLWYNO CYFARWYDDYD ERTHYGL 4 I REOLI'R DEFNYDD O DAI FEL AIL GARTREFI A LLETY GWYLIAU TYMOR BYR. pdf eicon PDF 422 KB

I graffu’r sail tystiolaeth, yr opsiynau ardaloedd a’r opsiwn a ffafrir ar gyfer cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a fyddai’n galluogi rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail-gartrefi a llety gwyliau).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Argymell i’r Cabinet y dylid cymeradwyo yr opsiwn a ffafrir o ran cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, sef ‘Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd)’.

·       Gofyn i’r swyddogion polisi cynllunio ail-edrych ar y trothwy y diffinir gorddarpariaeth o lety gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau, yn ystod y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Arweinydd Tîm (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd – Gwyned a Môn). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Atgoffwyd yr aelodau bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef:

o   C3 – Prif Gartref

o   C5 – Ail Gartref Eilaidd

o   C6 – Llety Gwyliau

-      Cadarnhawyd bod perchnogion tai yn gallu newid dosbarth defnydd eu tai heb gais cynllunio a byddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rheoli hyn, drwy ychwanegu’r orfodaeth i wneud cais cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai.

-      Pwysleisiwyd bod cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ddull o reoli stoc dai oddi fewn ardaloedd, a thrwy hynny hwyluso gallu pobl leol gael tai o fewn eu cymunedau.

-      Adroddwyd bod y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd yn newydd a digynsail a chadarnhawyd bod yr adran yn y broses o dderbyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y gwahanol agweddau o’r broses.

-      Eglurwyd ni fyddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn berthnasol i ardal awdurdod cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri. Er hyn, mae swyddogion yr adran yn cydweithio yn agos gyda’r Parc i rannu buddion/profiadau.

-      Adroddwyd bod cynnydd wedi bod mewn niferoedd yn trosglwyddo o fod yn uned breswyl i fusnes llety gwyliau gan dalu treth annomestig.

-      Nodwyd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i gyfres o opsiynau ardaloedd cyn i’r swyddogion dod i gasgliad ar y ffordd gorau o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 sef:

o   Opsiwn 1: Dwyfor (ardal beilot y Llywodraeth)

o   Opsiwn 2: Ardaloedd Cynghorau Cymuned/Tref/Dinas ble fo’r ddarpariaeth bresennol o gartrefi gwyliau yn fwy na 15% o’r stoc dai

o   Opsiwn 3: Ardaloedd Bregus (ardaloedd sydd dan fygythiad)

o   Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd).

-      Cadarnhawyd bod gwaith ymchwil y swyddogion yn awgrymu mai’r opsiwn a ffafrir i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ydi Gwynedd gyfan (Opsiwn 4). Er hyn, nodwyd nad oes modd bod yn sicr o oblygiadau ar yr ardal. Tybiwyd mai dyma’r opsiwn symlaf ymlaen gan na fyddai amheuaeth o ba ardaloedd sy’n disgyn o dan reolaeth y cyfarwyddyd – oni bai am ardaloedd o dan reolaeth cynllunio ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Nododd aelod ei fod yn falch bod argymhelliad clir ond yn pryderu am yr effaith bosib ar ardaloedd o dan y trothwy gormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau o 15% o’r stoc dai.

 

Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd na fyddai gweithredu cyfarwyddyd Erthygl 4 yn newid polisïau cynllunio  ac mai  polisiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fydd dal  yn weithredol yn dilyn cyflwyno cyfarwyddyd erthygl 4.

 

Mewn ymateb i ymholiad am ddiffiniad o ‘ail gartrefi a llety gwyliau’, adroddodd Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd nad oes polisi penodol ar gyfer llety gwyliau ac ail gartrefi. Er hyn, eglurwyd bod cymal ym Mholisi TWR 2 yn sicrhau na fydd caniatâd cynllunio yn cael ei ganiatáu os yw’n amharu ar stoc dai Gwynedd. Sicrhawyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5