CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Roedd trwydded
yrru'r ymgeisydd yn drwydded lân.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg yr ymgeisydd i nodi ei golfan ar
y ffurflen gais ac nad oedd cyfeiriad
at hyn yn yr adroddiad (er bod Canllawiau Cenedlaethol IOL yn nodi hyn
fel mater difrifol), nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ymgeiswyr o dro i dro yn
camddeall yr hyn sydd angen ei
nodi ar y ffurflen gais gan ystyried mai collfarnau / arnodiadau gyrru neu gollfarnau
diweddar sydd angen eu cofnodi. Ategwyd, gyda chynnydd
yn y nifer o geisiadau sydd yn cael eu cyflwyno
ar y wefan, bod llai o gyfle
i ymgeiswyr holi swyddogion,
ac felly yn rhoi cyfle
i’r ymgeisydd ymhelaethu ar y mater yn yr is-bwyllgor.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Nododd ei ddymuniad
o gael swydd y byddai’n rhoi incwm
ychwanegol iddo a swydd fyddai’n codi hyder yn
ei allu i gyfathrebu gyda’r cyhoedd. Ategodd nad oedd wedi
cynnwys y gollfarn ar y ffurflen gais gan fod cyfnod o dair
blynedd wedi mynd heibio ac
roedd dan yr argraff nad oedd angen
datgelu collfarn hanesyddol.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Chwefror 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio neu Ddifrodi eiddo (gwerth yr eiddo £5000 neu lai o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971 yn unig), yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971, a.1(1). Bu iddo dderbyn ‘rhyddhad amodol’ ynghyd a gorchymyn i dalu costau £85, iawndal o £30 a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5