Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/03/2023 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol (eitem 5)

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Roedd trwydded yrru'r ymgeisydd yn drwydded lân.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg yr ymgeisydd i nodi ei golfan ar y ffurflen gais ac nad oedd cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad (er bod Canllawiau Cenedlaethol IOL yn nodi hyn fel mater difrifol), nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ymgeiswyr o dro i dro yn camddeall yr hyn sydd angen ei nodi ar y ffurflen gais gan ystyried mai collfarnau / arnodiadau gyrru neu gollfarnau diweddar sydd angen eu cofnodi. Ategwyd, gyda chynnydd yn y nifer o geisiadau sydd yn cael eu cyflwyno ar y wefan, bod llai o gyfle i ymgeiswyr holi swyddogion, ac felly yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ymhelaethu ar y mater yn yr is-bwyllgor.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Nododd ei ddymuniad o gael swydd y byddai’n rhoi incwm ychwanegol iddo a swydd fyddai’n codi hyder yn ei allu i gyfathrebu gyda’r cyhoedd. Ategodd nad oedd wedi cynnwys y gollfarn ar y ffurflen gais gan fod cyfnod o dair blynedd wedi mynd heibio ac roedd dan yr argraff nad oedd angen datgelu collfarn hanesyddol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Chwefror 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio neu Ddifrodi eiddo (gwerth yr eiddo £5000 neu lai o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971 yn unig), yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971, a.1(1). Bu iddo dderbyn ‘rhyddhad amodolynghyd a gorchymyn i dalu costau £85, iawndal o £30 a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5