7 BIDIAU UN-TRO 2023-24 PDF 269 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,119,300 ar gyfer 2023/24
sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio.
Cymeradwywyd y bid cyfalaf gwerth £447,000 sydd i’w hariannu
o gyllid cyfalaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,119,300 ar
gyfer 2023/24 sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio.
Cymeradwywyd y bid cyfalaf gwerth £447,000
sydd i’w hariannu o gyllid cyfalaf.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro bod y bidiau un-tro ar gael i wireddu
gwaith unwaith ac am byth neu am gyfnod penodol ac yn ychwanegol i’r bidiau
refeniw a chyfalaf parhaol. Nodwyd bod cynnig i gyllido'r hyn a nodwyd yn yr
adroddiad o’r gronfa trawsffurfio ar wahân i’r cais am yr Amlosgfa. Nodwyd y
byddai’r gwaith o uwchraddio ac adnewyddu’r amlosgydd
yn Amlosgfa Bangor yn cael ei ariannu o gyllideb cyfalaf.
Tynnwyd sylw’r Aelodau at yr atodiadau sy’n rhestru a manylu’r bidiau ac
ategwyd y penderfyniad a geisir.
Ni dderbyniwyd sylwadau pellach.
Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr