Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/03/2023 - Y Cabinet (eitem 9)

9 STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Iaith ddrafft.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i baratoi a chynnal y broses ymgynghori.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Iaith ddrafft.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i baratoi a chynnal y broses ymgynghori.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Strategaeth ddrafft yma yn ddilyniant i’r un bresennol sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r Iaith ar draws y Sir ac yn bodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Nodwyd mai’r weledigaeth yw creu Strategaeth gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf fydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd bod y Cyngor yn gweithredu cynlluniau mewn nifer o feysydd sydd yn cael effaith ar y gymuned â’r Gymraeg neu sydd yn ceisio cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg. Rhestrwyd y cynlluniau hyn sydd yn cynnwys Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd, Cynllun Datblygu Lleol, Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy a Chynlluniau Adfywio Ardal Ni. Ychwanegwyd bod prif bwyslais y ddogfen ymgynghori ar adnabod y cyfleoedd newydd sydd ar gael.

 

Cyfeiriwyd at gynnwys y Strategaeth sydd yn cyfeirio at y meysydd gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad megis cynyddu nifer siaradwyr a chynyddu defnydd o'r Iaith mewn gwahanol sefydliadau.

 

Ychwanegwyd y bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu yn rheolaidd a manylwyd ar y camau nesaf o fynd i gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau mis Ebrill, yn ddibynnol ar sêl bendith y Cabinet. Ategwyd bod derbyn barn trigolion Gwynedd ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael i hyrwyddo’r Gymraeg yn holl bwysig. Nodwyd y bydd dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Iaith ym mis Mehefin er mwyn derbyn eu sylwadau a’u mewnbwn ar y strategaeth derfynol fydd yn dychwelyd i’r Cabinet yn yr Hydref.

           

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Diolchwyd i’r tîm Iaith am eu gwaith a dymunwyd pob lwc efo’r ymgynghoriad.

¾   Ategwyd bod y Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor.

¾   Mynegwyd balchder bod Gwynedd unwaith eto yn arwain ar y Gymraeg a bod y syniadau a gyflwynwyd yma yn rhai blaengar.

¾   Credwyd bod y Strategaeth ddrafft yn gosod gweledigaeth glir i gynyddu nifer siaradwyr a defnydd yr Iaith a bod hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono.

¾   Diolchwyd i’r Swyddogion oedd yn bresennol am eu gwaith a’u harbenigedd yn y maes.

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Llywela Haf Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith