9 STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 PDF 299 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Strategaeth Iaith ddrafft.
Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i baratoi a chynnal y broses ymgynghori.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones
PENDERFYNIAD
Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Strategaeth Iaith ddrafft.
Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i
baratoi a chynnal y broses ymgynghori.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y
Strategaeth ddrafft yma yn ddilyniant i’r un bresennol sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r
Iaith ar draws y Sir ac yn bodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Nodwyd
mai’r weledigaeth yw creu Strategaeth gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf
fydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd.
Adroddwyd bod y Cyngor yn gweithredu cynlluniau
mewn nifer o feysydd sydd yn cael effaith ar y gymuned â’r Gymraeg neu sydd yn
ceisio cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg. Rhestrwyd y cynlluniau hyn sydd yn cynnwys
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd,
Cynllun Datblygu Lleol, Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy a Chynlluniau Adfywio
Ardal Ni. Ychwanegwyd bod prif bwyslais y ddogfen ymgynghori ar adnabod y
cyfleoedd newydd sydd ar gael.
Cyfeiriwyd at gynnwys y Strategaeth sydd
yn cyfeirio at y meysydd gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad megis cynyddu
nifer siaradwyr a chynyddu defnydd o'r Iaith mewn gwahanol sefydliadau.
Ychwanegwyd y bydd y Strategaeth yn
cael ei hadolygu yn rheolaidd a manylwyd ar y camau nesaf o fynd i gyfnod o
ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau mis Ebrill, yn ddibynnol ar sêl bendith y
Cabinet. Ategwyd bod derbyn barn trigolion Gwynedd ar y cyfleoedd newydd sydd
ar gael i hyrwyddo’r Gymraeg yn holl bwysig. Nodwyd y bydd dadansoddiad o
ganlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Iaith ym mis
Mehefin er mwyn derbyn eu sylwadau a’u mewnbwn ar y strategaeth derfynol fydd
yn dychwelyd i’r Cabinet yn yr Hydref.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd i’r tîm
Iaith am eu gwaith a dymunwyd pob lwc efo’r ymgynghoriad.
¾ Ategwyd bod y
Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor.
¾ Mynegwyd balchder
bod Gwynedd unwaith eto yn arwain ar y Gymraeg a bod y syniadau a gyflwynwyd
yma yn rhai blaengar.
¾ Credwyd bod y
Strategaeth ddrafft yn gosod gweledigaeth glir i gynyddu nifer siaradwyr a
defnydd yr Iaith a bod hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono.
¾ Diolchwyd i’r
Swyddogion oedd yn bresennol am eu gwaith a’u harbenigedd yn y maes.
Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Llywela Haf Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith