8 CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD CYLLID PDF 196 KB
Enwebu cynrychiolydd i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Gyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Enwebu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i fynychu cyfarfodydd
herio perfformiad yr Adran Gyllid, a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i holi
am gynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol yn lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson.
Cofnod:
Cyflwynwyd
– adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i enwebu cynrychiolydd
i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid yn lle’r Cynghorydd
Elin Hywel, oedd wedi sefyll i lawr o fod yn aelod o’r pwyllgor.
Cynigiwyd
enw’r Cynghorydd Paul Rowlinson. Nododd
y Cynghorydd Paul Rowlinson y byddai’n fodlon cael ei enwebu, cyn belled â bod
y pwyllgor yn enwebu cynrychiolydd arall i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn ei le.
Gan
fod sawl aelod wedi gadael y cyfarfod, ac eraill yn absennol, awgrymwyd
cysylltu â holl aelodau’r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod i holi am gynrychiolydd
i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, ac
enwebu’r aelod hwnnw yn ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD enwebu’r
Cynghorydd Paul Rowlinson i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Gyllid, a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i holi am gynrychiolydd i fynychu
cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn lle’r Cynghorydd
Paul Rowlinson.