5 YMESTYN CYFNOD SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CBC PDF 224 KB
Ymestyn cyfnod penodiad Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru yn Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Medi, 2023.
Penderfyniad:
Cytunwyd i ymestyn cyfnod secondiad
rhan-amser Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru i rôl Prif Weithredwr
Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hyd at ddiwedd Medi, 2023.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd).
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i ymestyn cyfnod secondiad rhan-amser
Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru i rôl Prif Weithredwr
Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hyd at ddiwedd Medi, 2023.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan ategu’r bwriad o ymgorffori Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i fod
yn rhan o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol agos. Eglurwyd y gellir
cychwyn ar y camau perthnasol er mwyn symud staff drosodd drwy’r broses TUPE yn
fuan. Nodwyd bod prosesau i’w dilyn yn ymwneud â’r maes cyflogaeth sydd wedi
arafu’r cynnydd ond y nod yw symud drosodd cyn gynted ag y bo modd ac i symud
tuag at benodiad parhaol. Ychwanegwyd bod cynllun mewn lle ar gyfer gwireddu
hyn.
Ategwyd y penderfyniad a geisir sef i ymestyn cyfnod secondiad
rhan-amser y Prif Weithredwr Cydbwyllgor Corfforedig dros dro tan ddiwedd mis
Medi 2023.