6 ADNODDAU I SWYDDOGAETHAU STATUDOL PDF 254 KB
Alwen Williams, Prif Weithredwr dros dro y CBC i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyniwyd cymeradwyaeth ar gyfer
model cyflawni'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ar gyfer swyddogaethau
statudol.
Cymeradwywyd y strwythur staffio
cychwynnol a nodir yn Atodiad 2 o’r adroddiad.
Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i
Brif Weithredwr dros dro y CBC, mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adnoddau Dynol
Cyngor Gwynedd, ac yn unol â Datganiad Polisi Tâl y Cyd-bwyllgor Corfforedig,
ac mewn perthynas â’r swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth i:
·
Gwblhau'r Swydd Ddisgrifiadau angenrheidiol ar
gyfer y swyddi
·
Gadarnhau'r raddfa gyflog sydd wedi'i harfarnu
·
Hysbysebu a recriwtio i'r swyddi
Cymeradwywyd trosglwyddo'r gyllideb staffio trafnidiaeth
sy'n weddill sy'n cyfateb i 1 x Swyddog Trafnidiaeth FTE a gymeradwywyd ym mis
Ionawr i gostau sy'n gysylltiedig â gofynion ymgynghorol y broses Cynllunio
Trafnidiaeth Ranbarthol.
Cytunwyd i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig
dderbyn papur yn y dyfodol i argymell opsiwn a ffafrir er mwyn cyflawni
swyddogaeth 'Llesiant Economaidd', a fydd yn cynnwys yr opsiwn i drosglwyddo
staff sy'n gysylltiedig â Swyddfa Portffolio gyfredol Uchelgais Gogledd Cymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC).
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd cymeradwyaeth
ar gyfer model cyflawni'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ar gyfer swyddogaethau
statudol.
Cymeradwywyd y strwythur staffio cychwynnol a nodir
yn Atodiad 2 o’r adroddiad.
Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr dros
dro y CBC, mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, ac yn
unol â Datganiad Polisi Tâl y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac mewn perthynas â’r
swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth i:
·
Gwblhau'r Swydd Ddisgrifiadau angenrheidiol ar gyfer y swyddi
·
Gadarnhau'r raddfa gyflog sydd wedi'i harfarnu
·
Hysbysebu a recriwtio i'r swyddi
Cymeradwywyd trosglwyddo'r gyllideb staffio
trafnidiaeth sy'n weddill sy'n cyfateb i 1 x Swyddog Trafnidiaeth FTE a
gymeradwywyd ym mis Ionawr i gostau sy'n gysylltiedig â gofynion ymgynghorol y
broses Cynllunio Trafnidiaeth Ranbarthol.
Cytunwyd i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig dderbyn papur
yn y dyfodol i argymell opsiwn a ffafrir er mwyn cyflawni swyddogaeth 'Llesiant
Economaidd', a fydd yn cynnwys yr opsiwn i drosglwyddo staff sy'n gysylltiedig
â Swyddfa Portffolio gyfredol Uchelgais Gogledd Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer model cyflawni’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer swyddogaethau statudol, ‘dyletswyddau ar
unwaith’ â nodwyd yn y ddeddfwriaeth.
Nodwyd bod y model
arfaethedig wedi ei amlinellu yn Atodiad 2 yn cynnwys capasiti
Rheoli Strategol i oruchwylio’r rhaglen waith yn ogystal ag arbenigwyr
proffesiynol yn y maes Trafnidiaeth a Chynllunio.
Eglurwyd, yn
nhermau Trafnidiaeth, y dylai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig baratoi a chyflwyno
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fyddai yn nodi gweledigaethau, blaenoriaethau
ac yr amcanion ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth. Nodwyd y dylai’r Cynllun
ystyried polisïau a strategaethau Cenedlaethol yn ogystal ag anghenion lleol.
Rhagwelwyd y byddai’r Cynllun yn cymryd oddeutu 18 mis i’w gwblhau cyn cael ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu
cymeradwyaeth gyda’r bwriad o’i weithredu yn 2025.
O ran Cynllunio,
nodwyd bod y Cynllun Datblygu Strategol yn gynllun mwy hirdymor. Eglurwyd y
bydd yn gosod gweledigaeth, amcanion a pholisïau ar gyfer defnyddio tiroedd ac
adeiladau mewn ardal neu ranbarth penodol. Rhagwelwyd y bydd y gwaith o baratoi
Cynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol yn cymryd o leiaf 5 mlynedd. Ychwanegwyd
bod y Gwerthusiad Opsiynau sydd wedi ei nodi yn Atodiad 1 yn ceisio pennu’r
ffordd ymlaen.
Nodwyd bod y
goblygiadau ariannol eisoes wedi eu cyfarch ers y cyfarfod 13 Ionawr 2023 o’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig ble cymeradwywyd y gyllideb oedd ei angen ar gyfer recriwtio.
Ategwyd bod yr argymhelliad i recriwtio’n uniongyrchol i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd wedi ei gynllunio a’i ystyried o fewn y cyllidebau sydd
wedi eu cymeradwyo.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd am y cyflwyniad a
mynegwyd parodrwydd i gefnogi’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.