7 DATGANIAD POLISI TÂL 2023-24 PDF 218 KB
I fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl
Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC).
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i fabwysiadu datganiad
polisi tâl Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig fabwysiadu datganiad
Polisi Tâl ar gyfer 2023/24. Eglurwyd ei bod yn ddyletswydd statudol ar bob
awdurdod cyhoeddus i fabwysiadu datganiad polisi tâl yn flynyddol. Nodwyd bod y
Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 ynghlwm â’r adroddiad ac yn hawdd i’w ddeall;
ychwanegwyd mai mater technegol yw’r eitem hon.