Dylan
Williams, Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais
i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Bod
y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr
Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 30 Medi, 2023 er mwyn parhau i
ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.
2.
Bod
yr holl gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan
CBC y Gogledd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dylan Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru
ar gyfer y Bwrdd Uchelgais).
PENDERFYNWYD
1.
Bod y Bwrdd Uchelgais
yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau
ddiwrnod yr wythnos tan 30 Medi, 2023 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif
Weithredwr ar sail dros dro.
2.
Bod yr holl
gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y
Gogledd.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
1.
Mae’r trefniadau a
argymhellir yn cyd-fynd gyda phenderfyniad mewn egwyddor y 6 Cyngor i
drosglwyddo swyddogaethau Uchelgais Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol.
2.
Drwy gyflawni’r rôl Prif
Weithredwr y CBC, bydd Cyfarwyddwr Portffolio yn cynorthwyo rhanbarth y Gogledd
i ddatblygu CBC effeithiol, tra bod mewn sefyllfa unigryw i sicrhau bod
buddiannau Uchelgais Gogledd Cymru yn cael eu diogelu yn y flwyddyn yma o
drawsnewid.
TRAFODAETH
Awgrymwyd y
byddai’n fuddiol petai’r aelodau hynny o’r Bwrdd nad ydynt yn rhan o lywodraeth
leol yn cael eu briffio ar yr hyn sy’n digwydd o ran y Cyd-bwyllgor
Corfforedig, a goblygiadau hynny i’r Bwrdd.
Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod pawb yn cael
dealltwriaeth o’r hyn sy’n mynd ymlaen, ac y gellid trefnu bod gwybodaeth yn
cael ei rhannu gyda phawb yn y ffordd fwyaf effeithiol. Nododd y Swyddog Monitro fod y gwaith o greu
cynllun ar gyfer y broses yn cychwyn rŵan, ac y byddai yna gyfathrebu
gyda’r colegau, ayb, ar hyd y daith.
Nodwyd bod ymestyn
secondiad y Cyfarwyddwr Portffolio fel Prif Weithredwr Dros Dro y CBC yn gam
synhwyrol a phragmatig yn yr amgylchiadau, ond bod angen dod i drefniant mwy
parhaol cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib’.