ETHOL IS-GADEIRYDD
I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 - 2024
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Edwards a’r Cynghorydd Gruffydd Williams
Yn unol
â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynigion:-
O blaid y Cynghorydd Elwyn Edwards: (10) Y Cynghorwyr:- Elwyn Edwards,
Elin Hywel, Huw Wyn Jones, Edgar Owen, Huw Rowlands, Delyth Lloyd Griffiths,
Gareth Tudor Jones, Cai Larsen, Gareth A Roberts, Gareth Coj Parry
O blaid y Cynghorydd Gruffydd Williams: (4) Y Cynghorwyr:- Anne
Lloyd-Jones, Gruffydd Williams, Elwyn Jones, John Pughe Roberts
Atal (0)
PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer
2023/24