Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/05/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 pdf eicon PDF 1 MB

GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023

 

Ystyried yr adroddiad i gymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Cymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual, Caernarfon

 

Cofnod:

GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau bod y Gwasanaeth wedi derbyn cwyn gan berchnogion eiddo cyfagos parthed  cerbydau yn parcio ar y palmant ac ar lecyn o wair gyferbyn ag eiddo Tanffordd, Ffordd Llanberis, Caernarfon. Yn dilyn archwiliad ac asesiad o’r sefyllfa, ymgynghorodd y Gwasanaeth ar gyflwyno argymhelliad i ymestyn y llinellau melyn dwbl i atal cerbydau rhag parcio ar y palmant a’r llecyn gwair. Yn ystod y cyfnod ymgynghori (Mawrth 2022) fe dderbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cynllun arfaethedig. O ganlyniad, adolygwyd y cynllun yn Awst 2022 a phenderfynwyd peidio addasu’r bwriad gan fod cyfiawnhad derbyniol dros fwrw ymlaen a’r cynllun. Cafodd y cynllun arfaethedig i wahardd parcio ar Ffordd Llanberis ei gyflwyno fel rhan o’r gorchymynGwaharddiadau, cyfyngu aros a mannau parcio ar y stryd a dirymu (ardal Arfon rhif 20) (Caernarfon) 2023’ ac fe dderbyniwyd gwrthwynebiad am yr ail dro. Cyflwynwyd y gorchymyn i’r Pwyllgor am gymeradwyaeth.

 

Roedd y Swyddog o’r farn y byddai cyflwyno llinellau melyn yn y lleoliad  yn atal cerbydau rhag gyrru dros y palmant i barcio ar y gwair ger eiddo Tanffordd. Byddai hynny yn ei dro yn lleihau’r nifer o achosion lle byddai mwd yn cael ei gario ar y palmant a’r ffordd, sy’n arwain at broblem diogelwch defnyddwyr y ffordd. Byddai llinellau melyn hefyd yn cadw’r llain welededd yn glir i drigolion Stad Llain y Felin yn ogystal â eiddo Tanffordd.

 

b)    Amlygodd yr Aelod Lleol, y sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod yn cydymdeimlo gyda’r gwrthwynebydd gan fydd hyn yn creu anawsterau iddo, ond yn hyderus bod y buddion yn fwy na’r sgil effeithiau negyddol.

·         Yn bwysig nodi bod yr adran wedi gwneud asesiad effaith cydraddoldeb a daeth hwnnw yn ei ôl yn glir.

·         Yr hyn sydd dan sylw ydi mater iechyd a diogelwch. Bwriad y llinellau melyn yw atal faniau a cherbydau eraill rhag parcio ar lain o dir, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae hyn yn broblem oherwydd:

§  Mae’n ffordd cymharol gyflym - mae’r cerbydau yn rhwystro traffig rhag gweld y ffordd o’u blaen.

§  Mae cerbydau sy’n parcio yma yn cario mwd i’r ffordd sy’n beryglus ac yn creu risg o lithro.

§  Mae parcio yma yn dinistrio’r llecyn o wair, mwd sydd yma nid gwair erbyn hyn.

·           Mae hefyd yn bwysig nodi bod llawer o drigolion lleol wedi cefnogi’r camau hyn yn ystod y broses ymgynghori.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r gorchymyn

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelodau:

·         Bod angen sicrhau diogelwch ar ddarn cyflym o ffordd

·         Bod mwd ar y palmant ac felly gorfod cerdded ar y lôn

·         Bod uchder camper van, wrth barcio ar y gwair, yn cuddio arwydd 40mya

 

e)    Mewn ymateb i gwestiwn y byddai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7