7 CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 PDF 1 MB
GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR
Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023
Ystyried yr adroddiad i gymeradwyo
cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar
Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg,
‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis,
Rhosbodrual, Caernarfon
Cofnod:
GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A
MANNAU PARCIO AR Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023
a)
Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth Traffig
a Phrosiectau bod y Gwasanaeth wedi
derbyn cwyn gan berchnogion eiddo cyfagos parthed cerbydau yn parcio ar
y palmant ac ar lecyn o wair gyferbyn
ag eiddo Tanffordd, Ffordd
Llanberis, Caernarfon. Yn dilyn
archwiliad ac asesiad o’r sefyllfa, ymgynghorodd
y Gwasanaeth ar gyflwyno argymhelliad i ymestyn y llinellau melyn dwbl i
atal cerbydau rhag parcio ar
y palmant a’r llecyn gwair. Yn
ystod y cyfnod ymgynghori (Mawrth 2022) fe dderbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cynllun arfaethedig.
O ganlyniad, adolygwyd y cynllun yn Awst
2022 a phenderfynwyd peidio
addasu’r bwriad gan fod cyfiawnhad
derbyniol dros fwrw ymlaen a’r
cynllun. Cafodd y cynllun arfaethedig i wahardd parcio
ar Ffordd Llanberis ei gyflwyno fel rhan
o’r gorchymyn ‘Gwaharddiadau, cyfyngu
aros a mannau parcio ar y stryd a dirymu (ardal Arfon rhif 20) (Caernarfon)
2023’ ac fe dderbyniwyd
gwrthwynebiad am yr ail dro.
Cyflwynwyd y gorchymyn i’r Pwyllgor am gymeradwyaeth.
Roedd y Swyddog o’r farn y byddai
cyflwyno llinellau melyn yn y lleoliad yn atal cerbydau rhag
gyrru dros y palmant i barcio
ar y gwair ger eiddo Tanffordd. Byddai hynny yn
ei dro yn
lleihau’r nifer o achosion lle byddai
mwd yn cael
ei gario ar y palmant a’r
ffordd, sy’n arwain at broblem diogelwch defnyddwyr y ffordd. Byddai llinellau melyn hefyd yn cadw’r
llain welededd yn glir i
drigolion Stad Llain y Felin yn
ogystal â eiddo Tanffordd.
b)
Amlygodd yr Aelod Lleol, y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn cydymdeimlo gyda’r gwrthwynebydd gan fydd hyn yn
creu anawsterau iddo, ond yn
hyderus bod y buddion yn fwy na’r
sgil effeithiau negyddol.
·
Yn bwysig nodi bod yr adran
wedi gwneud asesiad effaith cydraddoldeb a daeth hwnnw yn ei
ôl yn glir.
·
Yr hyn sydd dan sylw ydi mater iechyd a diogelwch. Bwriad y llinellau melyn yw atal faniau
a cherbydau eraill rhag parcio ar
lain o dir, fel sy’n digwydd ar
hyn o bryd. Mae hyn yn broblem
oherwydd:
§
Mae’n ffordd cymharol gyflym - mae’r cerbydau yn rhwystro traffig
rhag gweld y ffordd o’u blaen.
§
Mae cerbydau sy’n parcio yma yn
cario mwd i’r ffordd sy’n
beryglus ac yn creu risg o lithro.
§
Mae parcio yma yn dinistrio’r llecyn o wair, mwd sydd yma
nid gwair erbyn hyn.
·
Mae hefyd yn bwysig nodi bod llawer o drigolion lleol wedi cefnogi’r camau hyn yn
ystod y broses ymgynghori.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r gorchymyn
d) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelodau:
·
Bod angen sicrhau diogelwch ar ddarn cyflym o ffordd
·
Bod mwd ar y palmant ac felly gorfod cerdded ar y lôn
·
Bod uchder camper van,
wrth barcio ar y gwair, yn cuddio arwydd 40mya
e) Mewn ymateb i gwestiwn y byddai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7