9 Cais Rhif C23/0116/09/LL 1 Idris Villas, Tywyn, Gwynedd, LL36 9AW PDF 458 KB
Ail- gyflwyniad: Newid
defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol,
ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r
fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard
AELOD
LLEOL: Cynghorydd John Pughe
Dolen
i ddogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad
Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i
ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd eisoes:
Cofnod:
Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn
gysylltiedig â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch,
gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa
gerbydol i'r iard
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld ar safle 15-05-23
a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd
tir i greu iard storio / gwerthiant ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol
sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr. Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens
diogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i’r fynedfa amaethyddol
bresennol i greu mynedfa gerbydol addas. Ategwyd bod Datganiad Cynllunio,
Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac Adroddiad Ecolegol Cychwynnol wedi eu cyflwyno
fel rhan o’r cais ac yn ddiweddarach ar y 29 Mawrth 2023 cyflwynwyd Cynllun
Tirlunio o amgylch y ffens derfyn. Yn
dilyn y Pwyllgor diwethaf cyflwynwyd manylion
llwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle ar y 28 Ebrill 2023.
Cyfeiriwyd at effaith gweledol ymysg y rhesymau gwrthod ar
y cais blaenorol C22/1050/09/LL gyda’r swyddogion yn amlygu bod yr un pryderon
yn parhau’n berthnasol. Er derbyn cynllun tirlunio oedd yn dangos bwriad i
dirlunio ochr allanol y ffens ddiogelwch, ystyriwyd y byddai hyn yn lleddfu
ychydig ar effaith gweledol y datblygiad, fodd bynnag, nid yw’n llwyr oresgyn y
pryderon.
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad a sylwadau’r Uned
Priffyrdd (ers y Pwyllgor diwethaf 17
Ebrill 2023) derbyniwyd cynlluniau o lwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle
yn ogystal â manylion sut mae’r cerbydau yn troi o fewn y safle. Nodwyd bod y
safle yn ganolog yn y dref a byddai’r fynedfa ar ochr allanol ym mwa’r ffordd.
O’r archwiliad safle ystyriwyd fod gwelededd agored boddhaol i’r ddau
gyfeiriad. Byddai parcio o fewn y safle i gwsmeriaid a ystyrir yn dderbyniol i
fodloni gofynion TRA 2 y CDLl. Derbyniwyd sylwadau’r
Uned Drafnidiaeth ar y wybodaeth ychwanegol ddiweddaraf, sy’n datgan eu bodlonrwydd
gyda’r cynlluniau sy’n dangos symudiadau ymadawiadau cerbydau o’r safle ac nad
oes ganddynt wrthwynebiad. Ar sail y sylwadau diweddaraf ystyriwyd fod y bwriad
yn dderbyniol i sicrhau gweithrediad diogel o’r briffordd a chydymffurfio a
pholisïau TRA 4, maen prawf 6 polisi MAN 6 y CDLl a
NCT 18: Trafnidiaeth
Nodwyd bod y swyddogion yn ystyried fod y datblygiad yn parhau’n annerbyniol ar sail pryderon llifogydd, effaith ar fwynderau gweledol yr ardal a mwynderau'r preswylwyr cyfagos. Er bod elfennau yn dderbyniol, nid yw’n gorbwyso’r ffaith fod egwyddor y bwriad yn methu cyfarfod profion cyfiawnhad polisi Cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15. Cafodd y pryderon hyn eu codi mewn ymateb i Ymholiad Cyn Cais ble argymhellwyd yn erbyn cyflwyno cais, ar sail na ellid cyfiawnhau lleoli’r bwriad mewn parth llifogydd C1. Mae cynllun tirlunio wedi ei gyflwyno bellach sy’n golygu ychydig o welliant yn nhermau mwynderau gweledol, ond nid yw’n goresgyn ein pryderon yn llwyr. Mae’r wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r llwybrau mynediad ac ymadawiad cerbydau, wedi goresgyn ein pryderon gwreiddiol am ddiogelwch ffyrdd ac felly gellid diddymu rheswm 4 o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9