Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 22/05/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 10)

10 Cais Rhif C23/0212/30/LL Pant Valley, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LF pdf eicon PDF 425 KB

Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD

 

RHESYMAU:

 

1.    Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi yn ddiamheuol fod angen gwirioneddol i godi adeilad amaethyddol o’r maint a’r raddfa a fwriedir yn y lleoliad hwn wedi cael ei brofi'n ddiamheuol. Mae’r cais, felly’n, groes i ofynion Polisi PCYFF 1 a PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 sy’n annog gwrthod cynigion y tu allan i ffiniau datblygu oni bai bod cyfiawnhad yn dangos bod lleoliad cefn gwlad yn hanfodol ac sydd ddim yn cydymffurfio gyda pholisïau eraill o fewn y Cynllun ei hun.

 

2.    Byddai graddfa'r bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint, wedi ei leoli mewn man amlwg, ynysig, gerllaw ffordd a llwybr cyhoeddus ac o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig. Ni fyddai’r datblygiad hwn yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol ac o’r herwydd fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal. Mae’r cais felly’n groes i ofynion meini prawf perthnasol polisïau PCYFF 2, PCYFF 3 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a'r cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a Nodyn Cyngor Technegol 12 : Dylunio sy’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau gweledol lleol a'r amgylchedd

Cofnod:

 

Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad)

 

a)      Amlygodd y Rheolwr Cynllunio  mai cais ydoedd i godi sied fel storfa amaethyddol ar safle gwledig o fewn daliad tir eiddo a elwir yn Pant Valley, Rhydlios. Eglurwyd bod y cynlluniau yn dangos adeilad fyddai’n mesur 22.86m x 13.74m  gan roi cyfanswm arwynebedd llawr mewnol o 314 m² ac yn 5.8m o uchder i'r crib. Roedd y cais yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd yn flaenorol. Amlygwyd bod maint, ffurf ac edrychiad y sied arfaethedig yn unol â’r manylion a wrthodwyd yn flaenorol. Lleolir y safle a'r ardal ehangach o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn ynghyd a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli gan CADW. Nid ydyw o fewn yr AHNE.

 

Gwrthodwyd y cais blaenorol oherwydd diffyg gwybodaeth a chyfiawnhad ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Nodwyd ar y pryd nad oedd cynllun busnes wedi ei gyflwyno. Nid yw’n arferol gofyn am gynllun busnes gyda cheisiadau amaethyddol ble mae’r daliad amaethyddol wedi sefydlu, ond yn yr achos yma, nid yw’r ymgeisydd yn gweithredu daliad amaethyddol ac, felly, ystyriwyd ei fod yn gais gwbl rhesymol i ofyn am wybodaeth o’r fath er mwyn canfod sut fyddai’r menter yn debygol o weithredu i’r dyfodol. Fel rhan o’r cais presennol, roedd yr asiant wedi cyflwyno datganiad i gefnogi a chyfiawnhau’r bwriad.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol

 

Nid bwriad yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw atal dyhead unigolion i gynnal gweithgareddau amaethyddol i'r dyfodol, ond nid yw wedi ei argyhoeddi’n ddiamheuol bod angen gwirioneddol am sied amaethyddol newydd ar y safle hwn wedi ei brofi ac felly’r bwriad yn groes i egwyddor datblygu amaethyddol sylfaenol a Pholisi PCYFF 1 a PCYFF 2 y CDLl yn benodol gan nad oes cyfiawnhad ddigonol o fewn lleoliad gwledig ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Yn ogystal, oherwydd ei faint, gorffeniad a’i leoliad ynysig, byddai’r adeilad yn ffurfio nodwedd anghydnaws yn y dirwedd gan niweidio mwynderau gweledol lleol yn groes i feini prawf perthnasol polisïau, PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell gwrthod y cais

 

b)      Yn manteisio ar y cyfle i siarad nododd y Cynghorydd Anwen Davies (ar ran yr Aelod Lleol) y sylwadau canlynol.

·         Bod gwir angen am sied i sicrhau lle i gadw defaid – ar gyfer porthi ac i wneud ymweliad gan y milfeddyg yn haws

·         Bod cynnig i leihau lefel y tir wedi ei gyflwyno a bod bwriad defnyddio’r pridd i godi cloddiau o amgylch y sied

·         Bod bwriad plannu coed ac ailgylchu dwr glaw

·         Bod yr ymgeisydd yn Gymro gweithgar ifanc gyda dymuniad o sefydlu menter amaethyddol yn Pant Valley

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

·         Na fyddai’r sied ddim mwy gweledol nag eraill yn yr ardal

·         Bod y sied bresennol yn rhy agos i’r tŷ

·         Cynnig bod Aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10