10 Cais Rhif C23/0212/30/LL Pant Valley, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LF PDF 425 KB
Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa
amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD YN UNOL
Â’R ARGYMHELLIAD
RHESYMAU:
1.
Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio
Lleol wedi ei argyhoeddi yn ddiamheuol fod angen gwirioneddol i godi adeilad
amaethyddol o’r maint a’r raddfa a fwriedir yn y lleoliad hwn wedi cael ei
brofi'n ddiamheuol. Mae’r cais, felly’n, groes i ofynion Polisi PCYFF 1 a PCYFF
2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 sy’n annog gwrthod
cynigion y tu allan i ffiniau datblygu oni bai bod cyfiawnhad yn dangos bod
lleoliad cefn gwlad yn hanfodol ac sydd ddim yn cydymffurfio gyda pholisïau
eraill o fewn y Cynllun ei hun.
2.
Byddai graddfa'r bwriad yn
golygu codi adeilad sylweddol ei faint, wedi ei leoli mewn man amlwg, ynysig,
gerllaw ffordd a llwybr cyhoeddus ac o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig. Ni
fyddai’r datblygiad hwn yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol
ac o’r herwydd fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i fwynderau gweledol yr
ardal. Mae’r cais felly’n groes i ofynion meini prawf perthnasol polisïau PCYFF
2, PCYFF 3 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd
a'r cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar
gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a Nodyn Cyngor Technegol 12 : Dylunio sy’n
ymwneud ag amddiffyn mwynderau gweledol lleol a'r amgylchedd
Cofnod:
Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa amaethyddol ynghyd a
gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad)
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
mai cais ydoedd i
godi sied fel storfa amaethyddol ar safle gwledig o fewn daliad tir eiddo a
elwir yn Pant Valley, Rhydlios. Eglurwyd bod y cynlluniau yn dangos
adeilad fyddai’n mesur 22.86m x 13.74m
gan roi cyfanswm arwynebedd llawr mewnol o 314 m² ac yn 5.8m o
uchder i'r crib. Roedd y cais yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd yn
flaenorol. Amlygwyd bod maint, ffurf ac edrychiad y sied arfaethedig yn unol
â’r manylion a wrthodwyd yn flaenorol. Lleolir y safle a'r ardal ehangach o
fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn ynghyd a Thirlun o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli gan CADW. Nid ydyw o fewn yr AHNE.
Gwrthodwyd y cais
blaenorol oherwydd diffyg gwybodaeth a chyfiawnhad ar gyfer y datblygiad
arfaethedig. Nodwyd ar y pryd nad oedd cynllun busnes wedi ei gyflwyno. Nid
yw’n arferol gofyn am gynllun busnes gyda cheisiadau amaethyddol ble mae’r
daliad amaethyddol wedi sefydlu, ond yn yr achos yma, nid yw’r ymgeisydd yn
gweithredu daliad amaethyddol ac, felly, ystyriwyd ei fod yn gais gwbl rhesymol
i ofyn am wybodaeth o’r fath er mwyn canfod sut fyddai’r menter yn debygol o
weithredu i’r dyfodol. Fel rhan o’r cais presennol, roedd yr asiant wedi
cyflwyno datganiad i gefnogi a chyfiawnhau’r bwriad.
Cyflwynwyd y cais i
bwyllgor am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol
Nid bwriad yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yw atal dyhead unigolion i gynnal gweithgareddau amaethyddol
i'r dyfodol, ond nid yw wedi ei argyhoeddi’n ddiamheuol bod angen gwirioneddol
am sied amaethyddol newydd ar y safle hwn wedi ei brofi ac felly’r bwriad yn
groes i egwyddor datblygu amaethyddol sylfaenol a Pholisi PCYFF 1 a PCYFF 2 y CDLl yn benodol gan nad oes cyfiawnhad ddigonol o fewn
lleoliad gwledig ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Yn ogystal, oherwydd ei
faint, gorffeniad a’i leoliad ynysig, byddai’r adeilad yn ffurfio nodwedd
anghydnaws yn y dirwedd gan niweidio mwynderau gweledol lleol yn groes i feini
prawf perthnasol polisïau, PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl.
Roedd yr Awdurdod
Cynllunio Lleol yn argymell gwrthod y cais
b)
Yn
manteisio ar y cyfle i siarad nododd y Cynghorydd Anwen Davies (ar ran yr Aelod
Lleol) y sylwadau canlynol.
·
Bod
gwir angen am sied i sicrhau lle i gadw defaid – ar gyfer porthi ac i wneud
ymweliad gan y milfeddyg yn haws
·
Bod
cynnig i leihau lefel y tir wedi ei gyflwyno a bod bwriad defnyddio’r pridd i
godi cloddiau o amgylch y sied
·
Bod
bwriad plannu coed ac ailgylchu dwr glaw
·
Bod
yr ymgeisydd yn Gymro gweithgar ifanc gyda dymuniad o sefydlu menter
amaethyddol yn Pant Valley
·
Bod
y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais
·
Na
fyddai’r sied ddim mwy gweledol nag eraill yn yr ardal
·
Bod
y sied bresennol yn rhy agos i’r tŷ
·
Cynnig
bod Aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle
Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10