5 CYFANSODDIAD CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG RHANBARTH Y GOGLEDD PDF 501 KB
Adroddiad i’w
gyflwyno gan Iwan G.D. Evans, Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y
Cyfansoddiad:
·
Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig
·
Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau
·
Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol
·
Rheolau Gweithdrefn Contractau
2. Dirprwyo hawl
i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer
eu cyhoeddi.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Swyddog Monitro.
PENDERFYNIAD
1. Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y
Cyfansoddiad:
·
Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig
·
Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau
·
Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol
·
Rheolau Gweithdrefn Contractau
2. Dirprwyo hawl
i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer
eu cyhoeddi.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gadarnhau bod angen cyhoeddi cyfansoddiad er mwyn cydymffurfio â
Rheoliadau Cyd Bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Cymru) 2022 a Deddf
Llywodraeth Leol 2000. Nodwyd bod angen sicrhau holl ddogfennaeth er mwyn
sicrhau sylfaen i briodoldeb prosesau.
Manyliwyd ar bedair elfen
o’r cyfansoddiad sef:
Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig
Cyflwynwyd y Côd ymddygiad statudol heb addasiadau. Cadarnhawyd byddai
modd diwygio’r côd hwn yn y dyfodol drwy sefydlu a
chynnal Pwyllgor Safonau i’r Cydbwyllgor Corfforedig.
Cylch Gorchwyl Is
Bwyllgor Safonau
Nodwyd ei fod yn
synhwyrol i aelodaeth Is-bwyllgor Safonau’r Cydbwyllgor Corfforedig gael eu
hethol o’r aelodau presennol ar bwyllgorau safonau awdurdodau lleol rhanbarth y
gogledd a Parc Cenedlaethol Eryri. Eglurwyd byddai hyn yn lleihau baich
hyfforddi. Cynigiwyd byddai’r Pwyllgor Safonau yn cynnwys 7 aelod - un o Parc
Cenedlaethol Eryri ac un o bob awdurdod lleol sy’n rhan o’r Cyd-Bwyllgor.
Rheoliadau
Cytundebau a Materion Cyfreithiol
Eglurwyd byddai’r
rheoliadau hyn yn cadarnhau sut bydd cytundebau yn cael eu arwyddo a phwy bydd
gan yr hawliau i wneud hynny.
Rheolau
Gweithdrefn Contractau
Awgrymwyd
mabwysiadu fframwaith Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd a gellir adolygu’r rheolau er
mwyn bod yn benodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.