6 ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2022/23 PDF 516 KB
Adroddiad i’w
gyflwyno gan Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a
Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor
Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
2.
Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r
tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi
ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.
3.
Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn
unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n
briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Adran 151 a’r Dirprwy Swyddog Adran 151.
PENDERFYNIAD
2. Cael
cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r tanwariant yn 2022/23 gael ei
drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau
unwaith ac am byth yn y dyfodol.
3. Cymeradwyo
Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23
(amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023.
Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd
fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2).
TRAFODAETH
Cadarnhawyd bod yr
adroddiad alldro yn cadarnhau gwariant a balansau’r
Cyd-Bwyllgor yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Eglurwyd bod tanwariant o
£238,098 yng nghyllideb y Cyd-Bwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.
Nodwyd bod tanwariant ym mhob agwedd o wariant y Cyd-Bwyllgor gan eithrio
Cefnogaeth Gwasanaethau Cyllid a Chyfreithiol (gan gynnwys y Swyddog Monitro).
Eglurwyd bod amcangyfrif
2022 o boblogaethau’r awdurdodau lleol wedi eu defnyddio yn hytrach na
chanlyniadau’r cyfrifiad gan mai dyna oedd wedi ei gytuno wrth osod y gyllideb
wreiddiol. Eglurwyd fod ffigyrau poblogaeth gwahanol yn cael eu defnyddio
ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy i ddyrannu costau’r
swyddogaethau cynllunio o’i gymharu â’r holl gostau eraill, gan fod y costau
cynllunio yn cael eu dyrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y
boblogaeth sy’n byw o fewn ffiniau’r Parc yn hytrach nag i’r cynghorau.