Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/05/2023 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd (eitem 6)

6 ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 516 KB

Adroddiad i’w gyflwyno gan Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

2.    Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

3.    Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Adran 151 a’r Dirprwy Swyddog Adran 151.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

2.    Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

3.    Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2).

 

TRAFODAETH

 

Cadarnhawyd bod yr adroddiad alldro yn cadarnhau gwariant a balansau’r Cyd-Bwyllgor yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Eglurwyd bod tanwariant o £238,098 yng nghyllideb y Cyd-Bwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd bod tanwariant ym mhob agwedd o wariant y Cyd-Bwyllgor gan eithrio Cefnogaeth Gwasanaethau Cyllid a Chyfreithiol (gan gynnwys y Swyddog Monitro).

 

Eglurwyd bod amcangyfrif 2022 o boblogaethau’r awdurdodau lleol wedi eu defnyddio yn hytrach na chanlyniadau’r cyfrifiad gan mai dyna oedd wedi ei gytuno wrth osod y gyllideb wreiddiol.  Eglurwyd fod ffigyrau poblogaeth gwahanol yn cael eu defnyddio ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy i ddyrannu costau’r swyddogaethau cynllunio o’i gymharu â’r holl gostau eraill, gan fod y costau cynllunio yn cael eu dyrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y boblogaeth sy’n byw o fewn ffiniau’r Parc yn hytrach nag i’r cynghorau.