5 CYFRIFON GwE 2022-2023 - ALLDRO REFENIW PDF 407 KB
I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23. Mae yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr
amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol
gyflawn.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol
cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol
sylweddol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid,
ble nododd nad Cyfrifon Terfynol yw y rhain ond darlun mwy eglur o hanes
ariannol GwE. Nododd bod gofyn i’r
Cydbwyllgor wneud tri phenderfyniad :
Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant
Refeniw Cydbwyllgor GwE am 2022/23.
Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa
wrth gefn GwE i ariannu gorwariant o £138,871 yn 2022/23, ar ôl ystyried y prif
wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant.
Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol
2022/23 fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn sydd
i’w cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan Adran Gyllid yr awdurdod lletya
cyn y dyddiad statudol o 31 Mai.
Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn manylu yr
amrywiadau ariannol, gan nodi bod GwE mewn sefyllfa o orwariant o dan rhai
penawdau, tanwariant o dan eraill gyda rhai penawdau yn eithaf agos i’w lle.
Nodwyd bod tanwariant bychan o ran costau
gweithwyr. Ar y llaw arall, roedd
gorwariant dan y pennawd Eiddo, a hynny yn bennaf oherwydd bod llai o incwm
wedi ei dderbyn o ddefnydd adeiladau na’r hyn oedd yn y gyllideb, gan nad oedd
rhentu adeiladu wedi ail-gychwyn i’r graddau disgwyledig. Nodwyd bod cludiant hefyd mewn sefyllfa o
danwariant. Roedd gorwariant ar rhai
prosiectau penodol, ond mewn gwirionedd roedd hyn yn deillio o ddefnyddio
balansau oedd wedi cronni.
Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor
fel a ganlyn :
Cadarnhawyd bod grantiau wedi eu rhannu gydag
ysgolion ac o hynny y bydd canlyniadau yn cael eu cyflawni.
Cadarnhawyd bod arian dysgu proffesiynol yn
fwriadol wedi ei roi yn ôl i’r ysgolion oherwydd oblygiadau y cwricwlwm newydd,
gan gadarnhau bod yr arian yn rhoi sail gychwynnol i ysgolion.
PENDERFYNWYD
Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol sylweddol.