Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/05/2023 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 5)

5 CYFRIFON GwE 2022-2023 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 407 KB

I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.  Mae yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol gyflawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol sylweddol.

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid, ble nododd nad Cyfrifon Terfynol yw y rhain ond darlun mwy eglur o hanes ariannol GwE.  Nododd bod gofyn i’r Cydbwyllgor wneud tri phenderfyniad :

Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am 2022/23.

Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant o £138,871 yn 2022/23, ar ôl ystyried y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant.

Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2022/23 fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn sydd i’w cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan Adran Gyllid yr awdurdod lletya cyn y dyddiad statudol o 31 Mai.

 

Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn manylu yr amrywiadau ariannol, gan nodi bod GwE mewn sefyllfa o orwariant o dan rhai penawdau, tanwariant o dan eraill gyda rhai penawdau yn eithaf agos i’w lle.

 

Nodwyd bod tanwariant bychan o ran costau gweithwyr.  Ar y llaw arall, roedd gorwariant dan y pennawd Eiddo, a hynny yn bennaf oherwydd bod llai o incwm wedi ei dderbyn o ddefnydd adeiladau na’r hyn oedd yn y gyllideb, gan nad oedd rhentu adeiladu wedi ail-gychwyn i’r graddau disgwyledig.  Nodwyd bod cludiant hefyd mewn sefyllfa o danwariant.  Roedd gorwariant ar rhai prosiectau penodol, ond mewn gwirionedd roedd hyn yn deillio o ddefnyddio balansau oedd wedi cronni.

 

Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor fel a ganlyn :

 

 Cadarnhawyd bod grantiau wedi eu rhannu gydag ysgolion ac o hynny y bydd canlyniadau yn cael eu cyflawni.

 

 

Cadarnhawyd bod arian dysgu proffesiynol yn fwriadol wedi ei roi yn ôl i’r ysgolion oherwydd oblygiadau y cwricwlwm newydd, gan gadarnhau bod yr arian yn rhoi sail gychwynnol i ysgolion.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol sylweddol.