6 CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG PDF 259 KB
I gyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diwygiedig i'r Cyd-Bwyllgor ei gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)
diwygiedig.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr Adroddiad Cynllun Ariannol
Tymor Canolig (CATC) gan Bennaeth yr
Adran Cyllid, gyda chais i’r Cydbwyllgor ei gymeradwyo. Nodwyd bwriad y
Cynllun i geisio edrych ymlaen mewn
cyfnod ansefydlog, gan amlinellu y materion ariannol fydd yn wynebu GwE dros y
tair blynedd nesaf.
Mae Tabl 4.11 yn nodi Effeithiau Cronnol ac
yn gosod y senario. Fel y gwelir, yn
ystod 23/24 adnabyddir y senario orau, gydag arbed ariannol o £102,000. Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw Cytundeb
Soulbury yn wybodus ar hyn o bryd, ac efallai y bydd angen ôl-ddyddio’r cynnydd
cyflog hyd at Medi 2022.
Ar y pegwn arall, nodwyd ei bod yn anodd iawn
edrych ar 24/25 heb wybod beth sydd gan y dyfodol i gynnig ac mae y senario
gorau ar gyfer 24/25 fyddai dim rhagor o doriadau.
O ran gwerth am arian, arfarnu a dal
effaith, cadarnhawyd ei bod yn ofynnol i osod cyllideb gytbwys, gan edrych am
werth am arian a pharatoi ymlaen llaw, a
theimlwyd bod y papur yn cydnabod y sefyllfa ac yn cynnig datrysiad.
Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor
fel a ganlyn :
Nodwyd ei bod yn ddogfen ddefnyddiol iawn ac
y byddai yn ddefnyddiol edrych ar y toriadau hanesyddol mae GwE wedi
ymgymryd (a grybwyllir yn Her Ariannol
yr adroddiad). Un sialens yw ystyried
beth yw senario ystyrlon tra yn ceisio gwerth am arian ac effaith, ac mae gwaith
yn parhau ar hyn. Teimlwyd bod gan GwE y
cryfder o weithio mewn partneriaeth, ac
nad oeddynt eisiau eu cyfyngu i doriadau yn unig. Yr allwedd yw gweledigaeth glir ac
arweinyddiaeth glir a chroesawyd y cyd-ddatrysiad.
Nodwyd y pryder bod y ddogfen yn son am
sialensiau o ddifrif. Teimlwyd bod y
ffigyrau yn siarad trostynt eu hunain, gyda chyllidebau wedi eu casglu a
chwestiynwyd onid oes angen i’r Cydbwyllgor siarad gyda y Llywodraeth? Yn sgil hyn, cyfeiriodd un Aelod at yr
ad-daliad cyfraniad pensiwn oedd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam wedi ei
dderbyn fel credyd un-tro a chwestiynwyd pryd fydd y gronfa bensiwn yn cael ei
hail-brisio?
Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid yr Awdurdod
Lletyol bod gwahaniaeth rhwng Cynllun Pensiwn Gwynedd a Chynllun Pensiwn
Clwyd. Cadarnhawyd mai lleihau y
cyfraniad, yn hytrach na rhoi ad-daliad, sydd wedi digwydd yn achos GwE.
Diolchwyd am yr adroddiad a nododd un Aelod
bod y sefyllfa yn peri pryder, yn enwedig yn sgil bod y maes wedi bod drwy
’Lymder Un’ eisoes. Atgyfnerthodd y sylw
bod yn rhaid pwyso ar y Llywodraeth ar bob cyfle posib, neu ni fydd modd symud
ymlaen heb fuddsoddiad. Cadarnhawyd bod
y maes addysg angen mwy o gyllid, a nodwyd er y byddai yn fuddiol gosod achos
i’r Llywodraeth, bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, gan mai
penderfynu ar ddefnydd yr arian mae Llywodraeth Cymru. Nodwyd yr angen i drafod rhai syniadau yn
aeddfed, a herio gwariant Llywodraeth Cymru felly.
Cyfeiriwyd at gyfarfod diweddar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â phwysau cyllidebol ar Awdurdodau Lleol, ac o hynny pwysau ar yr ysgolion. Adroddwyd bod Aelodau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6