7 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 PDF 104 KB
I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn a nodi Datganiad
Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar
archwiliad) ar gyfer 2022/23
Cofnod:
Cyflwynwyd, er
gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau
ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2023.
Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan
Archwilio Cymru
Adroddwyd bod y
cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n
cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.
Mynegwyd bod y
flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa gyda gweithrediad y prisiad, gosod
dyraniad asedau strategol newydd a datblygiadau PPC. Cyfeiriwyd at grynodeb o
gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion
gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu
gyda CPI. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o’r flwyddyn flaenorol a hynny
oherwydd bod ffioedd ‘Partners’, yn gallu amrywio o
flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar berfformiad.
Amlygwyd bod
lleihad £13.6 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa a hynny wedi blwyddyn heriol
gydag effaith parhad rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel. Er hynny, ymddengys ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol bod gwerth y Gronfa wedi dechrau codi.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Cydnabod bod y flwyddyn wedi bod yn brysur a heriol
·
Bod y wybodaeth yn glir a hunanesboniadwy
·
Bod rhaid derbyn bod gwerth y Gronfa yn mynd i
ddisgyn ar brydiau
·
Yn diolch i’r staff am eu gwaith
PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y
Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad)
ar gyfer 2022/23