Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/06/2023 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 7)

7 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 104 KB

I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2023. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa gyda gweithrediad y prisiad, gosod dyraniad asedau strategol newydd a datblygiadau PPC. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o’r flwyddyn flaenorol a hynny oherwydd bod ffioedd ‘Partners’, yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar berfformiad.

 

Amlygwyd bod lleihad £13.6 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa a hynny wedi blwyddyn heriol gydag effaith parhad rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel. Er hynny, ymddengys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bod gwerth y Gronfa wedi dechrau codi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Cydnabod bod y flwyddyn wedi bod yn brysur a heriol

·         Bod y wybodaeth yn glir a hunanesboniadwy

·         Bod rhaid derbyn bod gwerth y Gronfa yn mynd i ddisgyn ar brydiau

·         Yn diolch i’r staff am eu gwaith

 

PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23