8 CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2023 PDF 93 KB
I ystyried
a derbyn y Cynllun
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn y Cynllun a nodi’r
wybodaeth
Cofnod:
Croesawyd Yvonne
Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd Cynllun
Archwilio Amlinellol ar gyfer 2023 yn cyflwyno’r tîm archwilio ynghyd a ffioedd
a llinell amser archwilio gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn
unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Amlygwyd y
byddai Cynllun Archwilio Manwl 2023 yn cael ei gyflwyno yn ystod Medi 2023 a
hynny oherwydd gofynion newidiadau allweddol i ISA315 sy’n golygu bod rhaid i’r
archwilwyr wneud gwaith pellach o ystyried a phwyso a mesur risgiau cyn
cyhoeddi’r Cynllun. Ategwyd y byddai’r adroddiad ar y gwaith o archwilio’r
Datganiadau Ariannol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod Tachwedd
2023.
Diolchwyd am yr
adroddiad ac i Yvonne Thomas am fynychu’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y
Cynllun a nodi’r wybodaeth