Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/06/2023 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 8)

8 CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2023 pdf eicon PDF 93 KB

I ystyried a derbyn y Cynllun

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y Cynllun a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Amlinellol ar gyfer 2023 yn cyflwyno’r tîm archwilio ynghyd a ffioedd a llinell amser archwilio gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Amlygwyd y byddai Cynllun Archwilio Manwl 2023 yn cael ei gyflwyno yn ystod Medi 2023 a hynny oherwydd gofynion newidiadau allweddol i ISA315 sy’n golygu bod rhaid i’r archwilwyr wneud gwaith pellach o ystyried a phwyso a mesur risgiau cyn cyhoeddi’r Cynllun. Ategwyd y byddai’r adroddiad ar y gwaith o archwilio’r Datganiadau Ariannol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod Tachwedd 2023. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Yvonne Thomas am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y Cynllun a nodi’r wybodaeth