5 CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG: YMRWYMIADAU O DDYRANIAD GWYNEDD PDF 137 KB
Mae Atodiadau 1 a 2
ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig.
Mae’r ddau atodiad yn eithriedig
o dan paragraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion Ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny).
Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â
defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er
gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth
o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r
atodiadau i’r adroddiad yn benodol ynglŷn
a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r yr ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn
yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am
y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cytunwyd
i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant
Gyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r
symiau a nodwyd.
2. Awdurdodwyd
Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i awdurdodi rhyddhau
llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol
a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau
arbennig.
3. Cytunwyd
i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i
ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a
chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor
Gwynedd.
4. Gofynwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith gefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltweiaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu eu gilydd
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn.
PENDERFYNIAD
1.
Cytunwyd i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd
o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr
adroddiad yn unol â’r symiau a nodwyd.
2.
Awdurdodwyd Pennaeth Economi a Chymuned, mewn
ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif
Weithredwr, i ryddhau llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i
gwblhau gwiriadau terfynol a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant
Cyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau arbennig.
3.
Cytunwyd i sefydlu pedair Cronfa
Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i ddosbarthu symiau llai o arian
Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu
tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd.
4.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal
ymchwiliad i’r maes gwaith cefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu
dealltwriaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn
ategu ei gilydd.
TRAFODAETH
Eglurwyd bod penderfyniad
y Cabinet yng nghyfarfod 24 Ionawr 2023 wedi sefydlu gweithdrefn ar gyfer
gweinyddu Cronfa Ffyniant Cyffredin yng Ngwynedd. Esboniwyd bod Panel Cronfa
Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi’i sefydlu yn dilyn y penderfyniad hwn, i
gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian, yn dilyn cyfnod
o dderbyn ceisiadau.
Adroddwyd bod y
gronfa werth £24.4miliwn ac y dylid ei ddyrannu erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Nodwyd bod Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi derbyn 144 o geisiadau
(cyfwerth â £52 miliwn). Cadarnhawyd bod 38 o’r ceisiadau hynny wedi bod yn
llwyddiannus, a bod cronfeydd ychwanegol wedi eu sefydlu er mwyn cefnogi
mentrau llai.
Diolchwyd i
swyddogion am asesu ceisiadau’r gronfa ffyniant yn effeithiol a thryloyw.
Cadarnhawyd bod
trawstoriad o brosiectau wedi derbyn cefnogaeth y gronfa, gyda nifer o fathau
gwahanol o gynlluniau a lleoliadau wedi cael eu cynnwys ar derfyn y cyfnod
ceisiadau agored. Manylwyd y bwriedir agor cronfeydd am symiau bychan o arian
gan ddefnyddio’r gronfa hon er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd pob ardal
o fewn Gwynedd.
Mynegwyd siomiant bod y cyfnod amser i wario arian y gronfa wedi cael ei
leihau yn sgil cadarnhad hwyr o drefniadau Llywodraeth Prydain.
Awdur: Dylan Griffiths (Rheolwr Gwasanaeth Datblygu'r Economi)) and Siwan Lisa Evans (Rheolwr Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd))