Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/07/2023 - Y Cabinet (eitem 5)

5 CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG: YMRWYMIADAU O DDYRANIAD GWYNEDD pdf eicon PDF 137 KB

Mae Atodiadau 1 a 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig.

 

Mae’r ddau atodiad yn eithriedig o dan paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion Ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r atodiadau i’r  adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r yr ymgeiswyr ac yn tanseilio hyder rhai eraill i rannu gwybodaeth sensitif  ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

 

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cytunwyd i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r symiau a nodwyd.

 

2.    Awdurdodwyd Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i awdurdodi rhyddhau llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau arbennig.

 

3.    Cytunwyd i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd.

 

4.    Gofynwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith gefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltweiaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu eu gilydd

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cytunwyd i ymrwymo cyfanswm o £21,352,966 o ddyraniad Gwynedd o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol â’r symiau a nodwyd.

 

2.    Awdurdodwyd Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif Weithredwr, i ryddhau llythyrau cynnig i’r cynlluniau yn ddarostyngedig i gwblhau gwiriadau terfynol a derbyn sêl bendith Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd i unrhyw amodau arbennig.

 

3.    Cytunwyd i sefydlu pedair Cronfa Galluogi (gyda cyfanswm cyllideb o £6,131,000) i ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r Sir gan awdurdodi gweithredu tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd. 

 

4.    Gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gynnal ymchwiliad i’r maes gwaith cefnogi mentra cymunedol / cymdeithasol er cynyddu dealltwriaeth y Cyngor a sicrhau fod ymdrechion sefydliadau yn cydweddu ac yn ategu ei gilydd.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod penderfyniad y Cabinet yng nghyfarfod 24 Ionawr 2023 wedi sefydlu gweithdrefn ar gyfer gweinyddu Cronfa Ffyniant Cyffredin yng Ngwynedd. Esboniwyd bod Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi’i sefydlu yn dilyn y penderfyniad hwn, i gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian, yn dilyn cyfnod o dderbyn ceisiadau.

 

Adroddwyd bod y gronfa werth £24.4miliwn ac y dylid ei ddyrannu erbyn diwedd mis Mawrth 2025. Nodwyd bod Panel Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd wedi derbyn 144 o geisiadau (cyfwerth â £52 miliwn). Cadarnhawyd bod 38 o’r ceisiadau hynny wedi bod yn llwyddiannus, a bod cronfeydd ychwanegol wedi eu sefydlu er mwyn cefnogi mentrau llai.

 

Diolchwyd i swyddogion am asesu ceisiadau’r gronfa ffyniant yn effeithiol a thryloyw.

 

Cadarnhawyd bod trawstoriad o brosiectau wedi derbyn cefnogaeth y gronfa, gyda nifer o fathau gwahanol o gynlluniau a lleoliadau wedi cael eu cynnwys ar derfyn y cyfnod ceisiadau agored. Manylwyd y bwriedir agor cronfeydd am symiau bychan o arian gan ddefnyddio’r gronfa hon er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd pob ardal o fewn Gwynedd.

 

Mynegwyd siomiant bod y cyfnod amser i wario arian y gronfa wedi cael ei leihau yn sgil cadarnhad hwyr o drefniadau Llywodraeth Prydain.

 

Awdur: Dylan Griffiths (Rheolwr Gwasanaeth Datblygu'r Economi)) and Siwan Lisa Evans (Rheolwr Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd))