CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD
Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-
·
Y Cynghorydd Louise
Hughes a’r teulu ar farwolaeth ei mam yn ystod yr haf.
·
Mrs Sharon Warnes,
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r teulu yn dilyn marwolaeth
ei gŵr yn ddiweddar.
Nodwyd hefyd y bu farw’r Cynghorydd Pete Prendergast, Cadeirydd Cyngor
Sir Ddinbych, ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a chydymdeimlwyd â’i deulu a’i
gyd-gynghorwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.
Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.
Dymunwyd y gorau i Mrs Sharon Warnes, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio, oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn oherwydd
triniaeth ysbyty.
Llongyfarchwyd:-
·
Pawb
fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol
Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, ac yn arbennig Rhys Iorwerth o Gaernarfon,
Alan Llwyd, Treforys, ond yn wreiddiol o Abersoch, ac Alun Ffred, cyn Arweinydd
y Cyngor hwn, ar gipio’r Goron, Y Gadair a Gwobr Goffa Daniel Owen. Diolchwyd hefyd i bawb fu’n helpu yn yr Eisteddfod.
·
Rhodri Jones,
Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth, ar ei ethol yn Aelod Hŷn y Flwyddyn,
Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn ddiweddar.
·
Y dyfarnwr pêl-droed Cheryl Foster, yn enedigol o
Fangor, ar fod y dyfarnwr benywaidd cyntaf i gymryd yr awenau mewn gêm yn Uwch
Gynghrair Cymru. Ar 9 Ionawr 2023,
penododd FIFA hi i'r pwll gweinyddu ar gyfer Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn
Awstralia a Seland Newydd, ac yn ôl ym mis Mai eleni, cafodd ei henwi fel y
dyfarnwr ar gyfer rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2023 rhwng
Barcelona a Wolfsburg ar 3 Mehefin 2023.
·
Drws i Ddrws ar ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth yn
Nwyfor ac Eifionydd. Deellid hefyd bod Bwrdd
Drws i Ddrws yn awyddus i ddiolch i Gyngor Gwynedd am ei gefnogaeth yn ystod y
blynyddoedd hynny.
·
Y
Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn ar gerdded 206 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd
er mwyn gwthio’r ymgyrch i ail-agor y llinellau rheilffordd o Aberystwyth i
Gaerfyrddin ac o Fangor i Afonwen.
Nodwyd hefyd bod deiseb ar y mater wedi llwyddo i ddenu dros 13,000 o
lofnodion.