Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/09/2023 - Y Cyngor (eitem 4)

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·           Y Cynghorydd Louise Hughes a’r teulu ar farwolaeth ei mam yn ystod yr haf.

·           Mrs Sharon Warnes, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ddiweddar.

 

Nodwyd hefyd y bu farw’r Cynghorydd Pete Prendergast, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a chydymdeimlwyd â’i deulu a’i gyd-gynghorwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych.

 

 

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Dymunwyd y gorau i Mrs Sharon Warnes, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn oherwydd triniaeth ysbyty.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Pawb fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, ac yn arbennig Rhys Iorwerth o Gaernarfon, Alan Llwyd, Treforys, ond yn wreiddiol o Abersoch, ac Alun Ffred, cyn Arweinydd y Cyngor hwn, ar gipio’r Goron, Y Gadair a Gwobr Goffa Daniel Owen.  Diolchwyd hefyd i bawb fu’n helpu yn yr Eisteddfod. 

·         Rhodri Jones, Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth, ar ei ethol yn Aelod Hŷn y Flwyddyn, Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn ddiweddar.

·         Y dyfarnwr pêl-droed Cheryl Foster, yn enedigol o Fangor, ar fod y dyfarnwr benywaidd cyntaf i gymryd yr awenau mewn gêm yn Uwch Gynghrair Cymru.  Ar 9 Ionawr 2023, penododd FIFA hi i'r pwll gweinyddu ar gyfer Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn Awstralia a Seland Newydd, ac yn ôl ym mis Mai eleni, cafodd ei henwi fel y dyfarnwr ar gyfer rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2023 rhwng Barcelona a Wolfsburg ar 3 Mehefin 2023.

·         Drws i Ddrws ar ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth yn Nwyfor ac Eifionydd.  Deellid hefyd bod Bwrdd Drws i Ddrws yn awyddus i ddiolch i Gyngor Gwynedd am ei gefnogaeth yn ystod y blynyddoedd hynny.

·         Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn ar gerdded 206 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd er mwyn gwthio’r ymgyrch i ail-agor y llinellau rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin ac o Fangor i Afonwen.  Nodwyd hefyd bod deiseb ar y mater wedi llwyddo i ddenu dros 13,000 o lofnodion.