10 ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2022-23 PDF 111 KB
I dderbyn yr adroddiad a darparu unrhyw sylwadau neu argymhellion ynglŷn a’r gyfundrefn gwynion sydd yn deillio o dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsman Cymru ar gyfer y flwyddyn 2022/2023.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad gan
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol yn cyflwyno sylwadau Ombwdsman Cymru ar drefniadau a pherfformiad y
Cyngor yng nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau yn ystod 2022/23 gan amlygu llwyddiannau,
sialensiau a datblygiadau. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol ar y Pwyllgor
i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer
ymdrin â chwynion. Ategwyd, ni fu unrhyw newid yn
y drefn na’r Polisi Pryderon a Chwynion yn ystod 2022/2023 ac felly bod cynnwys llythyr yr Ombwdsman yn seiliedig
ar y Polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2021.
Adroddwyd bod y Llythyr Blynyddol
wedi dod i law 17 Awst 2023. Cyfeiriwyd at rai sylwadau ac argymhellion a wnaethpwyd gan yr Ombwdsmon oedd yn cynnwys,
“Byddwn yn annog Cyngor Gwynedd, ac yn benodol, eich Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu, i ddefnyddio'r data hwn i ddeall
eich perfformiad o ran cwynion yn well ac ystyried pa mor dda y mae dulliau
ymdrin â chwynion yn dda wedi'i
wreiddio ledled yr Awdurdod”.
Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant perthnasol
yr oedd Aelodau’r Pwyllgor wedi ei
dderbyn (Trosolwg ar ymarfer da o Wella Gwasanaeth o Gwynion - Tachwedd 2022) ynghyd a sylw bod llythyr diwygiedig wedi ei dderbyn yn
cywiro gwall i ystadegau Cwynion y Cod ymddygiad.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i sylw bod y nifer cwynion yn lleihau
ac os mai’r rheswm dros hyn
oedd cofnodi cywir neu beidio, nodwyd bod y cofnod yn realistig a bod pob cwyn sy’n
cael ei dderbyn
yn cael ei
gofnodi (cyn cyfeirio ymlaen at y gwasanaeth perthnasol). Ategwyd mai cyfrifoldeb y Cabinet oedd cynnwys y cwynion ac mai cyfrifoldeb y Pwyllgor oedd sicrhau trefniadau’r
Cyngor mewn ymateb i gwynion.
Mewn ymateb i sylw bod 17% o gwynion wedi eu
derbyn am’ Ymdrin â Chwynion’, nodwyd bod hyn ynteu oherwydd
bod Swyddfa’r Ombwdsman yn ymdrin â chwynion
yn wahanol i'r Cyngor neu fod y gwasanaeth perthnasol heb ymateb / deall
y drefn yn llawn. Ategwyd bod hyfforddiant yn cael ei annog
a gwersi yn cael eu dysgu.
Mewn sylw ategol bod rhai gwasanaethau yn waeth na’i gilydd,
nodwyd bod pob gwasanaeth yn gwella
a bod rhai yn cael eu targedu
i dderbyn hyfforddiant pellach.
Mewn ymateb i sylw am adroddiad pellach / manylach, nodwyd nad oedd
bwriad cyflwyno mwy o wybodaeth gan mai sicrhau
trefniadau effeithiol ar gyfer ymdrin
â chwynion o fewn y Cyngor oedd cyfrifoldeb y Pwyllgor. Mewn ymateb i sylw
ategol ynglŷn â’r hyn y mae
gwasanaethau angen ei wneud i
wella ymateb, nodwyd eleni, yn
unol â'r gofyn statudol, mai’r Cabinet oedd yn gwirio rôl
y gwasanaethau, ac mai gwirio cynnwys y llythyr oedd cyfrifoldeb
y Pwyllgor. Mewn ymateb nododd y Cadeirydd mai darlun
o’r hyn sydd
yn cael ei
gyflwyno i’r Ombwdsman oedd gerbron y Pwyllgor ac nid gwybodaeth am y drefn.
Derbyn yr adroddiad