11 ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU - Diweddariad Ch1 PDF 208 KB
Darparu diweddariad i’r Pwyllgor ar raglen waith Chwarter 1 Archwilio Cymru
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiadau
Nodyn: 11b – awgrym i gynnwys
enwau / engreiffitau o Fentrau Cymdeithasol Gwynedd yn yr ymateb er mwyn deall
y cyd-destun yn ehangach
Cofnod:
Croesawyd Alan
Hughes ac Yvonne Thomas (Archwilio Cymru),
Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth
Cefnogi Busnes y Cyngor) a Jennifer Rao (Swyddog Cefnogi Busnes) i’r cyfarfod i
gyflwyno eu sylwadau / ymatebion.
Diweddariad Chwarter 1
Cyflwynwyd diweddariad chwarterol
(hyd at 30 Mehefin 2023) o raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio
perfformiad lleol gan amlygu y byddai’r
Adroddiad Blynyddol i’w gyhoeddi ym
mis Tachwedd 2023.
Tynnodd y Rheolwr Archwilio,
Archwilio Cymru, sylw’r Pwyllgor i un camgymeriad
yn yr adroddiad a gyflwynwyd. Lle roedd yn
adroddiad yn nodi “Ni dderbyniwyd Ffurflen Flynyddol y Cydbwyllgor Polisi
Cynllunio eto”, mewn gwirionnedd roedd Ffurflen Flynyddol y Cydbwyllgor Polisi Cynllunio wedi
ei dderbyn ganddynt ar 13 Mehefin 2023.
Cyfeiriwyd at yr Adolygiad Themâu
Digidol gan amlygu bod drafft cyntaf o’r adolygiad
wedi ei rannu
gyda’r Cyngor. Ategwyd bod Adolygiad Effeithlonrwydd Craffu wedi ei
gwblhau a bod trafodaethau wedi eu cynnal
06-09-23 i gytuno ar yr adroddiad terfynol. Y bwriad yw cyflwyno’r adroddiad
terfynol i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor. Cyfeiriwyd
at astudiaethau cenedlaethol
llywodraeth leol sydd wedi eu
Cynllunio ynghyd ag adroddiadau
cenedlaethol ac allbynnau eraill a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ers Mehefin 2022 oedd yn cynnwys
‘Cyfle wedi’i golli - Mentrau Cymdeithasol’
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i sylw nad oedd
cyfeiriad yn y diweddariad at yr argyfwng concrid diweddar (diogelwch adeiladau cyhoeddus sydd wedi eu hadeiladu
gan ddefnyddio’r concrid aeredig RACC), nodwyd y byddai cynlluniau archwilio yn addasu fel
bydd yr angen yn codi a gyda’r
mater yn un cyfredol, byddai’n debygol o ddylanwadu cynlluniau i’r dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad