5 GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR PDF 274 KB
I ystyried cynnwys yr adroddiad a chynnig unrhyw sylwadau.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd
bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag absenoldeb hirdymor staff yn y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol, nodwyd bod staff o fewn y gwasanaeth wedi camu i
fyny a bod rheolaeth dda o gyflawni dyletswyddau statudol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â threfniadau cyfweliadau gadael, nodwyd
bod y mater bellach ar raglen waith y Gwasanaeth Adnoddau Dynol.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad