Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 5)

5 GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 274 KB

I ystyried cynnwys yr adroddiad a chynnig unrhyw sylwadau.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag absenoldeb hirdymor staff yn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, nodwyd bod staff o fewn y gwasanaeth wedi camu i fyny a bod rheolaeth dda o gyflawni dyletswyddau statudol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â threfniadau cyfweliadau gadael, nodwyd bod y mater bellach ar raglen waith y Gwasanaeth Adnoddau Dynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad