13 ADOLYGIAD Y CYFANSODDIAD PDF 241 KB
I gefnogi newidiadau arfaethedig i'r Cyfansoddiad ac yn argymell i'r Cyngor
llawn eu bod yn cael eu mabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cefnogi’r
newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad gan argymell i’r Cyngor Llawn eu bod yn
cael eu mabwysiadu
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn amlygu
elfennau o’r Cyfansoddiad oedd angen eu diweddaru ynteu mewn ymateb i ofynion
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiad
(Cymru) 2021, newidiadau cyfreithiol neu drefniadau oedd yn cyfiawnhau
newid. Adroddwyd y gwelwyd cyfnod o sawl
newid i'r Cyfansoddiad wrth i’r Ddeddf ddod yn weithredol a bod newidiadau
pellach yn fater o sicrhau trefn.
Nodwyd bod y materion yn destun cymeradwyaeth y Cyngor
Llawn fodd bynnag gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a chefnogi’r newidiadau
arfaethedig gan argymell i'r Cyngor Llawn eu bod yn eu mabwysiadu.
Diolchwyd
am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Er yn ymestyn
amser cyflwyno rhybudd ar gyfer cwestiwn i’r Cyngor Llawn i 3 diwrnod gwaith
fel bod modd i swyddogion ymateb yn fanylach ar faterion all fod yn dechnegol,
nid oedd hyn yn cyfarch amser ar gyfer
paratoi ar gyfer cwestiwn atodol.
·
Bod cynyddu’r rhiniog o osod sêl y
Cyngor ar gontractau o £50,000 i £100,000 yn gam doeth.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad