9 ADOLYGIAD CYFANSODDIAD PDF 249 KB
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad a restrir yn yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor a’r atodiadau ynglŷn â:-
(i)
Swyddogaethau
Cyngor Llawn;
(ii)
Asesiad
Perfformiad Panel;
(iii)
Amserlen
Cwestiynau gan Aelodau; a
(iv)
Trothwy
ariannol ar gyfer selio contractau.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn
gwahodd y Cyngor i fabwysiadu cyfres o newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y’u
rhestrwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau iddo, ynglŷn â:-
(i)
Swyddogaethau
Cyngor Llawn;
(ii)
Asesiad
Perfformiad Panel;
(iii) Amserlen Cwestiynau gan Aelodau; a
(iv) Trothwy ariannol ar gyfer selio contractau.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol ynglŷn â’r Panel
Annibynnol fydd yn asesu perfformiad y Cyngor, nodwyd:-
·
Bod y canllawiau yn
cyfeirio at o gwmpas 4-5 o bobl ar y Panel.
Deellid bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn casglu pŵl o
ymgeiswyr gyda chefndir llywodraeth leol gweddol uchel (yn brif swyddogion ac
aelodau hefyd) y byddai’n rhaid i’r Cyngor benodi o’u plith, a byddai yna
gadeirydd annibynnol i’r Panel.
·
Nad oedd y broses yn
cyffelybu mewn unrhyw ffordd i broses cynllun datblygu lleol. Byddai’n rhaid cyflwyno argymhelliad y Panel
i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r Cabinet hefyd, mae’n debyg. Nid rheoleiddwyr fyddai’r Panel a’u rôl
fyddai rhoi barn a chyflwyno argymhellion i’r Cyngor eu hystyried ac ymateb
iddynt.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r newidiadau i’r
Cyfansoddiad a restrir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor a’r atodiadau ynglŷn
â:-
(i)
Swyddogaethau
Cyngor Llawn;
(ii)
Asesiad
Perfformiad Panel;
(iii)
Amserlen
Cwestiynau gan Aelodau; a
(iv)
Trothwy
ariannol ar gyfer selio contractau.