8 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2022-23 PDF 316 KB
Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio 2022/23. Yn
absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, Mrs Sharon Warnes, oherwydd gwaeledd, a hefyd
gan nad oedd yn bosib’ i’r Is-gadeirydd, Mr Eifion Jones, na’r un o’r aelodau
lleyg eraill fod yn bresennol ar fyr rybudd, fe gyflwynwyd yr adroddiad gan y
Cynghorydd Paul Rowlinson, fel aelod etholedig ar y Pwyllgor.
Nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson ei bod yn
bleser ganddo gyflwyno adroddiad cyntaf y Cadeirydd, ar sail gofynion statudol
Llywodraeth Cymru, yn amlinellu sut mae’r Pwyllgor wedi mynd ati i ystyried y
ffactorau anodd sydd wedi wynebu’r Cyngor dros y cyfnod ynghyd â sylwadau’r
Pwyllgor ar sut mae’r Cyngor wedi ymateb yn gadarn i’r risgiau hynny.
Diolchwyd i’r holl swyddogion sy’n cefnogi
gwaith y Pwyllgor mewn modd trylwyr a phroffesiynol a diolchwyd hefyd i’r
Aelodau Etholedig a Lleyg am eu cyfraniad allweddol i waith y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.