Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/09/2023 - Y Cyngor (eitem 8)

8 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2022-23 pdf eicon PDF 316 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23.  Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, Mrs Sharon Warnes, oherwydd gwaeledd, a hefyd gan nad oedd yn bosib’ i’r Is-gadeirydd, Mr Eifion Jones, na’r un o’r aelodau lleyg eraill fod yn bresennol ar fyr rybudd, fe gyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Rowlinson, fel aelod etholedig ar y Pwyllgor.

 

Nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson ei bod yn bleser ganddo gyflwyno adroddiad cyntaf y Cadeirydd, ar sail gofynion statudol Llywodraeth Cymru, yn amlinellu sut mae’r Pwyllgor wedi mynd ati i ystyried y ffactorau anodd sydd wedi wynebu’r Cyngor dros y cyfnod ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor ar sut mae’r Cyngor wedi ymateb yn gadarn i’r risgiau hynny.

 

Diolchwyd i’r holl swyddogion sy’n cefnogi gwaith y Pwyllgor mewn modd trylwyr a phroffesiynol a diolchwyd hefyd i’r Aelodau Etholedig a Lleyg am eu cyfraniad allweddol i waith y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.