12 ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 114 KB
I ystyried bod y camau gweithredu grëwyd mewn ymateb i argymhellion
adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Atgoffwyd yr Aelodau bod yr eitem yn
un i’w ystyried fel rôl llywodraethu
ac nid fel rôl craffu gyda
chais i’r Pwyllgor fod yn
fodlon bod trefniadau priodol yn ei
lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn
codi o archwiliadau archwilio allanol yn cael eu
gwireddu.
Nodwyd bod y gwaith o ymateb
i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith
parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei
gadeirio gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi sylw
i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd
o’r argymhellion. Ategwyd, i’r cynigion
hynny sydd yn derbyn casgliad
yn nodi ‘wedi ei gwblhau’ bod y categori yma bellach,
yn dilyn adborth gan y Pwyllgor,
wedi ei rhannu
yn ddau er mwyn adlewyrchu os yw’r argymhellion
wedi ei gwireddu
neu os ydynt yn waith parhaus
ar gyfer yr adran.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:
·
Bod nifer o adroddiadau yn debygol o ddychwelyd
Mewn ymateb i sylw bod llithriad i Adroddiad System Gwybodaeth Adnoddau
Dynol, nodwyd, er bod llithriad amlwg, bod yr adroddiad yn nodi y rhagwelir y
bydd y rhaglen waith o ymateb i’r argymhellion wedi ei gyflawni erbyn diwedd
Mawrth 2024. Ategwyd, ar lefel lleol bod swyddog yn cael ei benodi i edrych ar
y gweithredu a bod dogfen ‘ymateb rheolwyr’ yn cael ei baratoi i sicrhau
perchnogaeth y Cyngor i’r gwaith; yn genedlaethol, bydd swyddog yn cael ei
adnabod os yn berthnasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad