6 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2022-23 PDF 316 KB
I ystyried, cynnig sylwadau a chymeradwyo’r adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r
Adroddiad Blynyddol
Nodyn:
Cynnwys manylion cyrsiau hyfforddiant perthnasol mae’r Aelodau wedi fynychu
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan Gadeirydd y Pwyllgor. Amlygwyd mai
dyma’r tro cyntaf i’r adroddiad gael ei gyflwyno a hynny mewn ymateb i
argymhelliad cryf gan CIPFA oedd yn nodi y dylai’r Pwyllgor baratoi adroddiad
blynyddol sydd yn rhoi sicrwydd i bawb sy’n gyfrifol am lywodraethu ei fod yn
cyflawni ei bwrpas ac yn gallu dangos effaith. Pwrpas yr adroddiad yw cwmpasu
gwaith y Pwyllgor dros y flwyddyn 2022-23 ac amlygu sut mae’r Pwyllgor wedi
cyflawni ei ddyletswyddau statudol ynghyd ag ychwanegu gwerth i drefniadau
llywodraethu Cyngor Gwynedd.
Roedd y Cadeirydd yn croesawu sylwadau gan yr
Aelodau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cyngor Llawn 28-09-23. Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid am ei
waith o baratoi’r adroddiad a hefyd i’r Aelod Cabinet Cyllid - Y Cynghorydd
Ioan Thomas am y cydweithio arbennig sydd rhwng ef a’r Pwyllgor. Diolchwyd
hefyd i Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn am fod yn rhan o
drefniadau’r Pwyllgor a’i barodrwydd i gyflwyno adroddiadau am sylwadau.
Ategodd y Pennaeth Cyllid bod yr adroddiad yn
ymateb i ofynion statudol Llywodraeth Cymru ac wedi ei osod allan yn unol â
swyddogaethau’r Pwyllgor (rhai yn swyddogaethau mandadol ac eraill yn
swyddogaethau sydd wedi eu pennu gan Cyfansoddiad Cyngor Gwynedd). Tynnwyd sylw
at effeithiolrwydd y Pwyllgor a’r bwriad o gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod
nesaf ynglŷn â chynnal hunan-arfarniad o waith y Pwyllgor - hyn yn cael ei
weld fel ymarfer da, yn gam pwysig ymlaen ac o gymorth i’r Aelodau
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Bod sesiynau hyfforddiant
meysydd penodol wedi bod yn fuddiol - awgrym cynnwys y manylion yma yn yr
adroddiad
·
Bod hyfforddiant Arlingclose yn cael ei werthfawrogi - awgrym y dylai pob
Cynghorydd dderbyn yr hyfforddiant yma
·
Croesawu’r adroddiad gan ychwanegu diolchiadau i’r
Cadeirydd am ei gwaith a’i harweiniad dros y flwyddyn
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyr y datganiad, ‘na fydd yr
arbedion yn cael effaith anwastad ar draws y Sir’ (para 18), eglurwyd bod y
sylw yn un a wnaed gan y Pwyllgor wrth drafod effaith yr arbedion. Cafodd y
sylw ei ychwanegu i’r adroddiad terfynol a gyflwynwyd i’r Cabinet ac i’r Cyngor
PENDERFYNWYD:
Derbyn a
chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol
Nodyn: Cynnwys manylion cyrsiau hyfforddiant perthnasol mae’r Aelodau
wedi mynychu