8 BRIFF DRAFFT GRWP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH PDF 260 KB
I ystyried
mabwysiadu’r briff ac ethol aelodau i ymgymryd â gwaith y grŵp tasg a gorffen.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
a) Mabwysiadu’r briff ac ychwanegu y bydd y grŵp yn edrych ar y Cynllun
Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd.
b) Ethol y Cynghorydd Jina Gwyrfai i fod yn rhan o’r Grŵp Tasg a
Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
c) Ymgysylltu gydag holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal drwy e-bost er mwyn
derbyn dau enw arall i fod yn rhan o’r grŵp tasg a gorffen.
Cofnod:
Cyflwynwyd y briff drafft gan fod aelodau’r
Pwyllgor Craffu Gofal wedi penderfynu yn eu cyfarfod ym mis Ebrill nad oeddynt
wedi derbyn gwybodaeth ddigonol am Gynllun Awtistiaeth Gwynedd. Oherwydd hyn, roeddynt
yn awyddus i fynd i fwy o fanylder am y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig ac felly
penderfynwyd sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen.
Penderfynwyd y byddai’r Grŵp Tasg
a Gorffen yn cynnwys aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gofal a’r Pwyllgor Craffu
Addysg & Economi, yn ogystal â chynrychiolaeth o’r Adran Plant, Adran
Oedolion, Adran Addysg a’r Bwrdd Iechyd. Gofynnwyd am dri chynrychiolydd o’r
Pwyllgor Craffu Gofal i ymgymryd â gwaith y grŵp tasg a gorffen.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
-
Nodwyd
bod y briff yn gyffredinol iawn ac er bod penderfyniad y pwyllgor mis Ebrill yn
cyfeirio at drafodaeth o weithrediad y cynllun yn ei gyfanrwydd gyda’r tîm
newydd, nad oedd cyfeiriad o hynny yn y briff.
o
Mewn
ymateb, eglurwyd mai camgymeriad oedd hynny ac y dylai’r geiriad gyd-fynd gyda
geiriad yr hyn a benderfynwyd yn y pwyllgor.
-
Cynigwyd
bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei
gyfanrwydd yn gyntaf ac efallai y byddai modd gweithredu neu edrych yn fanylach
ar faterion penodol yn dilyn argymhellion y grŵp. Penderfynwyd y byddai
hyn yn ffordd deg o roi cyfle i’r tîm newydd wneud gwahaniaeth a gweithredu eu
rhaglen waith.
-
Nodwyd
y byddai rhagor o gynrychiolaeth o’r adran oedolion yn fuddiol gan fod mwy nag
un tîm yn delio gyda’r mater a dadleuwyd ei bod hi’n hanfodol bod y Cydlynydd
Prosiect Gwasanaethau Awtistiaeth yn rhan o’r drafodaeth.
Eglurwyd na
fyddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn un hir, oddeutu 2-3 gyfarfod ar y mwyaf.
Rhoddodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai ei henw ymlaen i fod yn aelod o’r Grŵp
Tasg a Gorffen. Oherwydd nad oedd holl aelodau’r Pwyllgor yn bresennol yn y
cyfarfod, penderfynwyd y byddai e-bost yn cael ei anfon i aelodau’r Pwyllgor
Craffu Gofal i ofyn pwy arall sydd gan ddiddordeb i fod yn rhan o’r grŵp.
Os na fyddai enwau’n dod i law, yna byddai’r gwahoddiad yn cael ei ymestyn i
weddill aelodau’r Cyngor. Nodwyd y byddai’r gynrychiolaeth o’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod y pwyllgor ar y 9fed o
Dachwedd.
PENDERFYNWYD
a)
Mabwysiadu’r briff ac ychwanegu y bydd y grŵp yn
edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd.
b)
Ethol y Cynghorydd Jina Gwyrfai i fod yn rhan o’r Grŵp
Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
c)
Ymgysylltu
gyda holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal drwy e-bost er mwyn derbyn dau enw
arall i fod yn rhan o’r grŵp tasg a gorffen.